Mae Daphne Weekes wedi bod yn yr ysgol ers pum mlynedd
|
Mae pennaeth ysgol gynradd yn ardal Abertawe yn ystyried cyflwyno system dagio plant er mwyn sicrhau eu diogelwch.
Mae prifathro Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn-las yn dweud bod rhaid iddo ystyried y cynllun ar ôl iddo fethu â dod o hyd i bobl i oruchwylio'r plant yn ystod yr awr ginio.
Yn ôl sawl prifathro, mae'n mynd yn fwy anodd i gyflogi staff oherwydd bod cyflogau'n gymharol isel a bod angen i'r heddlu ymchwilio i gefndir ymgeiswyr.
Ond dywed Dirprwy Gomisiynydd Plant Cymru nad yw'r syniad o dagio yn dderbyniol.
Mae Dyfrig Ellis, pennaeth Lôn-las, yn dweud bod 80% o broblemau disgyblaeth yr ysgol yn digwydd yn ystod yr awr ginio.
Nid yr ysgol yma yn unig sy'n wynebu problem recriwtio ond mae Mr Ellis yn bryderus am ddiogelwch disgyblion.
Diogelwch
Oherwydd hynny mae o wedi dechrau trafod gyda chwmni o'r Iseldiroedd i weld a ellir cyflwyno system dagio yn yr ysgol.
"Mae'n swnio'n eithafol iawn. Yn syml fe fyddai'r disgybl yn gwisgo tag amser cinio ac amser chwarae ac os y bydden nhw'n mynd drwy giatiau'r ysgol fe fyddai larwm yn canu," meddai.
"Mae system fel yma yn mynd i gostio lot o arian ond ar ddiwedd y dydd diogelwch y plant sy'n cael ei drafod a does dim modd rhoi pris ar hynny."
Dyfrig Ellis: Dim pris ar ddiogelwch plant
|
Ers pum mlynedd mae Daphne Weekes yn gynorthwy-ydd cinio yn Ysgol Lôn-las.
"Nid yw'n anodd ond mae angen amynedd," meddai.
"Rhaid bod fel mam i'r plant a gwneud yn siwr eu bod yn bwyta eu bwyd."
Hysbyseb
Ond yn ogystal â'r help llaw, mae gan warchodwyr hefyd gyfrifoldeb am ddiogelwch y disgyblion.
Dydy gofalu am blant ddim at ddant pawb ac erbyn hyn mae 'na brinder mawr o bobl sy'n barod i wneud y gwaith.
Yn ogystal ag ymrwymiad dyddiol mae'r oriau a'r cyflog yn fach.
Does dim digon o oruchwylwyr ar gael i ofalu am y disgyblion
|
Mae Mr Ellis, wedi hysbysebu am ddau gynorthwy-ydd cinio ond dydy o ddim yn obeithiol.
"Mae'n broblem cael rhywun," meddai.
"Rydym wedi hysbysebu sawl tro yn y misoedd diwethaf ac mae'r ymateb wedi bod yn hynod wael.
"Mae'r cyflog yn uchel a dwi'n meddwl bod y cyfrifoldeb yn aruthrol."
Ond dywed Dirprwy Gomisiynydd Plant Cymru nad yw'r syniad o dagio yn dderbyniol.
"Dwi'n deall bod angen i ysgolion boeni am ddiogelwch disgyblion ond yr hyn sy'n ein poeni ni ydy'r effaith y mae hyn yn ei gael ar hawliau dynol y plant.
"Rydyn ni'n gwybod fod angen goruchwyliaeth a sicrhau bod y plant yn saff."
Ar hyn o bryd cyfrifoldeb yr ysgolion a'r llywodraethwyr ac nid yr awdurdodau addysg yw llenwi'r swyddi yma.
Yn ôl un o'r undebau athrawon mae angen adolygu'r system.
"Rydym yn cydymdeimlo gyda'r awdurdodau addysg a'r penaethiaid ysgolion wrth iddyn nhw geisio denu goruchwylwyr ," meddai Dilwyn Roberts Young o undeb UCAC.
"Ond rhaid pwysleisio mai cyfrifoldeb yr awdurdodau addysg nid yn unig y penaethiaid ydy hyn, sy'n annheg."