BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 20 Ionawr, 2005, 16:20 GMT
Siop fawr: Diwedd cyfnod
Siop B J Jones Llanbedr Pont Steffan
Mae'r siop wedi bod yng nghanol Llambed ers 1921

Bydd un o siopau hynaf Llanbedr Pont Steffan yn cau a thraddodiad hir yn yr ardal yn dod i ben.

Pobl fusnes Llambed sy'n poeni wrth i siop B J Jones gau ei drws am y tro olaf ddiwedd yr haf ar ôl bod yn y dre am dros 80 mlynedd.

Mae'r siop yn enwog ac wedi bod yn gyrchfan i siopwyr o Gymru a thu hwnt ers bron i ganrif.

Dywedodd y cwmni nad ydyn nhw wedi dod o hyd i brynwr.

Parlwr

Benjamin John Jones gychwynnodd y siop ym mharlwr ei fam yn Alltyblaca ger Llambed.

Ei fab, Bernard Jones, ydy'r perchennog presennol.

"Aeth ati i werthu nwyddau wedyn ym mart Llanybydder bob pythefnos cyn dod i Lambed," meddai Mr Jones.

Bernard Jones, perchennog B J Jones
Tad Bernard Jones, Benjamin John Jones, gychwynnodd y busnes

"Cafodd y busnes ei gofrestru yn 1921."

Dywedodd fod siopa erbyn hyn wedi newid ac nad oedd gwasanaeth personol yn bwysig wrth i'r cwsmer chwilio am y prisiau rhataf.

"Mae pobl yn mynd ar y we ac i'r siopau mawr.

"Ac mae'r bara menyn wedi mynd mas o'r siop. Does dim galw am bethau fel y pants a'r fest a'r pethe mân yr oedd pobl yn arfer eu gwisgo.

"Mae'r asgwrn cefn wedi mynd bellach."

Roedd siop B J Jones yn arfer bod yn bwysig yn yn y dyddiau a fu a thorfeydd yn dod i weld y dillad diweddara.

Yn ei anterth roedd y cwmni yn cyflogi 18 o staff ond erbyn heddiw dim ond pedwar sy'n gweithio yno.

"Mae hi'n dipyn o siom fod y siop yn cau," meddai un o'r gweithwyr, Heather Lambert.

Staff B J Jones
Roedd y siop yn cyflogi 18 o weithwyr yn ei hanterth

"Dwi di bod 'ma ers 18 mlynedd ac fe fyddai'n gweld eisiau'r merched a Mr a Mrs Jones.

"Mae pawb fel un teulu yma a does dim gwell bosys na Mr a Mrs Jones."

Dywedodd Lilian Morgans, gweithiwr arall, ei bod hi'n drist o weld y siop yn cau.

"Mae hwn yn gyfnod trist i bawb yn y dref ac i Gymru gyfan," meddai. "Dwi wedi gweithio 'ma ers 34 mlynedd."

"Mae pawb yn cysylltu Llambed â'r siop ac mae nifer yn dod yma oherwydd y siop," meddai un o siopwyr y dref. "Bydd colled ar ei hôl."

Hyd yma does dim dyddiad ar gyfer y cau ond mae pennod habnesyddol yn y canolbarth yn dod i ben.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^