BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 20 Ionawr, 2005, 13:12 GMT
Sony: 300 o swyddi'n diflannu
Sony factory, Pencoed
Pencoed: Yn cynhyrchu setiau teledu

Bydd 300 o swyddi'n diflannu mewn dwy ffatri ym Mhen-y-bont a Phencoed, medd cwmni Sony.

Dywedodd y cwmni fod llai o alw am y setiau teledu traddodiadol yr oedden nhw eu cynhyrchu a mwy o alw am setiau teledu ‚ sgriniau gwastad.

"Ry'n ni wedi dadansoddi'r farchnad ym Mhrydain ac Ewrop ac wedi penderfynu fod angen 300 o swyddi'n llai," meddai llefarydd ar ran y cwmni.

"Mae hyn yn golygu y gallwn ni gynhyrchu setiau teledu am bris cystadleuol."

Bydd Sony'n dal i fod yn gyflogwr mawr ym Mhen-y-bont ac yn cyflogi 1,200 o weithwyr yn y ddwy ffatri.

Dechreuodd y cyfnod ymgynghori ddydd Iau.

"Rwy wedi sefydlu tÓm project er mwyn helpu'r cwmni ac mae trafodaethau wedi bod am arall gyfeirio'r cwmni," meddai Gweinidog Datblygu Economaidd y Cynulliad.

"Yn bersonol, rwy wedi ymrwymo i wneud fy ngorau glas i helpu'r rhai sy'n wynebu diswyddiadau a helpu'r cwmni i fod yn gyflogwr mawr yng Nghymru."

'Trychinebus'

Dywedodd Graham Smith o undeb Amicus fod hwn yn "newyddion trychinebus i'r gweithwyr a bydd effaith y diswyddiadau drwy dde Cymru.

"Ond nid yw'n syndod gan fod Hitachi, Panasonic a LG Phillips wedi cael gwared ar gannoedd o swyddi yn ne Cymru oherwydd y galw am dechnoleg newydd.

"Fe fyddwn ni'n siarad ‚ Sony am y posibilrwydd o ehangu'r gwaith ar y camera darlledu proffesiynol a datblygu cynnyrch sgrÓn wasatad i geisio achub swyddi yn eu ffatri ym Mhencoed."

Ym Medi y llynedd roedd 480 o ddiswyddiadau yn ffatri Panasonic yng Nghaerdydd.

Cafodd gwaith cynhyrchu ei symud i'r Weriniaeth Tsiec.




HEFYD:
Sony: Dim toriadau yng Nghymru
28 Hyd 03 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^