BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 14 Ionawr, 2005, 18:07 GMT
Poeni am gau ysgolion
Ysgol
Mae'r cyngor am ddiwygio'r gyfundrefn addysg

Ymgasglodd 70 o drethdalwyr Sir Gaerfyrddin mewn cyfarfod cyhoeddus nos Iau oedd yn erbyn cynlluniau'r cyngor sir i ddiwygio'r gyfundrefn addysg.

Cafodd y cyfarfod, a alwyd gan Gymdeithas yr Iaith, ei gynnal ym mhentref Carmel ger Cross Hands lle cafodd fforwm sirol ei ffurfio "i geisio gwarchod yr ysgolion".

Nod y trethdalwyr, sy'n poeni am ddyfodol 40 o ysgolion y sir, yw y bydd modd brwydro ag un llais drwy gyfrwng y fforwm.

Dywedodd y cyngor sir eu bod yn barod i ymgynghori yn achos pob ysgol.

Mae'r cyngor am wario £100m wrth ddiwygio'r gyfundrefn addysg a phryder rhai o'r trigolion yw y bydd degau o ysgolion pentrefi yn diflannu.

Yn y cyfarfod cyfeiriwyd at lythyr a dderbyniwyd oddi wrth Weinidog Addysg y Cynulliad, Jane Davidson, ac roedd rhai'n ofni fod y llythyr yn golygu na fyddai mwy o ymgynghori.

'Cyfrifoldeb'

Ond dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad: "Cyfrifoldeb awdurdodau addysg lleol yw ystyried sut y maen nhw'n rhedeg eu hysgolion yn effeithiol drwy gymryd penderfyniadau yn ymwneud ag a oes angen ysgolion newydd, eu cyfuno, eu cau neu eu rhedeg fel ffederasiwn drwy gymryd i ystyriaeth anghenion addysgol yr ardal.

"Ond ni ddylai'r un awdurdod addysg wneud newidiadau o'r fath heb ddilyn y broses gywir o ran cynigion yr ysgolion eu hunain. Mae'r rhain yn dechrau gydag ymgynghoriad llawn â'r bobol leol."

Wrth drafod y fforwm, dywedodd Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith nad fyddai'r mudiad yn dweud wrth gymunedau lleol sut i redeg yr ymgyrch.

"Yr hyn y bydd y fforwm yn ei wneud yw hwyluso pethau fel bod llais cymunedau lleol Cymraeg Sir Gaerfyrddin yn cael ei glywed," meddai.

"Fe fyddwn ni fel cymdeithas yn parhau gyda'n hymgyrch ein hunain."

Dywedodd Eurwen Thomas ar ran Ysgol Llanedi fod ffurfio'r fforwm yn syniad da ac nad oedd yn teimlo fod y cyngor wedi ymgynghori â'r gymuned.

"Mae'n rhaid i ni ymladd dros ein hysgolion ein hunain ond rhaid cofio mai mewn undeb mae nerth.

'Codi calon'

"Ar hyn o bryd does dim ymgynghori wedi bod a 'se'r cyngor wedi ymgynghori, byddai dim angen ffurfio'r fforwm."

Dywedodd Dilwyn Davies o Ors-las fod y cyngor wedi penderfynu tynged rhai ysgolion ond y gallai'r ymgyrch helpu ysgolion eraill.

"Rhaid i'r cyngor sylweddoli fod pobl yr ardal wedi cael llond bola," meddai Dewi Thomas o Fancffosfelen.

"Mae wedi codi fy nghalon i weld cymaint yma heno, yn Gymry a Saeson gyda'i gilydd."

Mae disgwyl cyfarfod llawn cyntaf o'r fforwm o fewn wythnosau a bydd cyfarwyddwr addysg newydd yn cael ei benodi'n fuan.




HEFYD:
Penodi: Cyngor o dan y lach
13 Ion 05 |  Newyddion
Penodi: Bygythiad cyfreithiol
08 Ion 05 |  Newyddion
Poeni am gau ysgolion
18 Hyd 04 |  Newyddion
Cau ysgol fach o dan y lach
14 Ebr 04 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^