BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 14 Ionawr, 2005, 06:41 GMT
Tsunami: Actor ar daith
Julian Lewis Jones
Mae taith Julian Lewis Jones yn mynd o Lanelli i Borthaethwy

Yn lle troedio'r llwyfan mae un o actorion Cymru yn cerdded o'r de i'r gogledd i godi arian ar gyfer apêl tsunami Asia.

Mae Julian Lewis Jones, seren Where The Heart Is a chyfres BBC Cymru, Belonging, yn cerdded 200 milltir o Lanelli i Ynys Môn.

Cychwynnodd y daith ddydd Sul o Barc y Strade yn Llanelli ac mae'n gobeithio cyrraedd Clwb Rygbi Porthaethwy ddydd Llun.

Mae'n codi arian ar y ffordd ac wrth fynd o un cae rygbi i'r llall.

Yn wreiddiol o Ynys Môn mae'n wyneb cyfarwydd ar ddramâu teledu Cymraeg fel Y Palmant Aur a Tipyn o Stad.

Dywedodd ei fod yn hoff iawn o rygbi ac iddo gychwyn ei daith wedi gêm bwysig y Cochion ddydd Sul yn erbyn Northampton yng Nghwpan Heineken.

Y Cochion enillodd.

Tysteb

Fe fydd y daith yn dod i ben ym Mhorthaethwy oherwydd y cysylltiad rhwng Llanelli a Môn, hynny yw'r bachwr Robin McBryde.

"Roeddwn yn teimlo fod rhaid i mi wneud rhywbeth i helpu'r apêl," meddai'r actor.

"Dwi'n ffan o'r Scarlets a gan ei bod yn flwyddyn dysteb i Robin - pam ddim cerdded o'r Strade i Borthaethwy?

"Er ei bod yn dipyn o dasg, mae'n un dwi'n benderfynol o'i gwneud.

"Mae'r drychineb yma wedi effeithio ar gymaint ac wedi cyffwrdd â chalonnau pobl ar draws y byd."

Ddydd Iau roedd yr actor yn cerdded drwy Rhydypennau ger Aberystwyth a'r arian yn llifo i'r gronfa.

"Dwi o leia' hanner ffordd. Mae'r traed yn dal i fynd ac mae'r ymateb wedi bod yn wych," meddai Jones.

"Mae pobl wedi bod yn dod allan i'n cefnogi a 'dan ni wedi llwyddo i godi £7,000 hyd yn hyn."

Ei gyfaill, yr actor Craig Rogan, sy'n ei gefnogi ar y daith.

"Mae angen y rhai sydd wedi dioddef oherwydd y tsunami wedi cyffwrdd â phawb," meddai Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Gareth Vaughan.

"Ac mae maint yr arian sydd wedi cael ei godi gan bobl Cymru yn aruthrol.

"Mae'r undeb yn dymuno chwarae ei ran a dyna pam ein bod ni'n noddi Julian ac yn gofyn i bawb sy'n gefnogol i roi arian drwy'r swyddfeydd yr undeb yn lleol."

Garej Gravell's yng Nghydweli, Grŵp Adeiladu WRW a sawl gwesty sy'n noddi'r daith.





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^