Mae angen £1.7m i gwblhau'r cynllun
|
Bydd ymwelwyr â mynydd ucha Cymru yn cael cyfle ddydd Sul i weld Iarll Eryri wrth iddo wneud ymweliad a'r Wyddfa.
Fe fydd Iarll Eryri yn ymweld â'r safle sy'n gobeithio cael canolfan groeso newydd ar gopa'r Wyddfa.
Ar hyn o bryd mae ymgyrchwyr yn ceisio codi £1.7m er mwyn sicrhau y bydd y cynllun i gael adeilad newydd yn mynd yn ei flaen.
Cafodd Iarll Eryri ei eni yn yr ardal yn 1930 ac mae wedi derbyn rhyddfraint Rheilffordd Yr Wyddfa.
Dywedodd rheolwyr Rheilffordd Yr Wyddfa y bydd Iarll Eryri yn cael triniaeth arbennig yn yr orsaf yn Llanberis cyn y bydd yn teithio ar y trên i'r copa ac yn ôl.
Mae disgwyl i'r daith gymryd dwy awr a hanner.
Daw ei ymweliad wrth i'r apêl i gael gwell adeilad ar y copa gael mwy o amser i godi'r arian angenrheidiol.
Yn flynyddol mae tua 350,000 o bobl yn ymweld â'r Wyddfa ond mae'r caffi sydd ar y copa yn hen ac mae angen ei adfer.
Mwy o amser
Disgrifiodd y Tywysog Charles yr adeilad 70 oed unwaith fel "slym".
Mae Ymgyrch Apêl Copa'r Wyddfa wedi casglu £7.3m o'r sector cyhoeddus a phreifat ond mae angen £1.7m cyn y bydd y gwaith yn dechrau.
Mae'r adeilad presennol yn 70 oed ac mewn cyflwr gwael
|
Roedd Swyddfa Arian Ewrop Cymru wedi gosod dyddiad penodol i godi'r arian, sef Mehefin 30 2005 ond bellach mae wedi ei ymestyn i Fedi 30 2005.
Fe fyddai'r adeilad newydd yn cynnwys caffi, canolfan groeso a gorsaf i Reilffordd Yr Wyddfa.
Mae'r ymgyrch apêl yn bartneriaeth rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chymdeithas Eryri.
Cafodd Iarll Eryri , Anthony Armstrong-Jones, ei eni yng nghartref y teulu ym Mhlas Dinas, Bontnewydd ger Caernarfon.
Cafodd ei wneud yn Iarll Eryri yn 1961 ar ôl priodi'r Dywysoges Margaret yn 1960.
Cafodd ei wneud yn arglwydd am oes yn dilyn ad-drefnu Tŷ'r Cyffredin.