Annwyd trwm: Bryn Terfel
|
Bu'n rhaid i'r bariton o Bantglas berfformio ar lwyfan yn Llundain er gwaetha annwyd trwm.
Roedd Bryn Terfel wedi colli ei lais oriau cyn i berfformiad o Das Rheingold gan Wagner ddechrau.
Tra oedd Bryn Terfel yn meimio ar lwyfan y Tŷ Opera Brenhinol yn Covent Garden, y seren opera Syr Donald McIntyre oedd yn canu.
Roedd y canwr, gafodd ei eni yn Seland Newydd, ym Maes Awyr Gatwick pan ofynnwyd iddo am help.
"Roeddwn i newydd lanio a chanodd fy ffôn - fy asiant oedd yno yn gofyn a hoffwn ganu yn Covent Garden," meddai'r canwr 70-oed.
'Drwy'r dydd'
"Mae'n debyg eu bod yn chwilio am rywun drwy'r dydd - dwi erioed wedi perfformio o'r un lle â'r gerddorfa o'r blaen."
Dywedodd y tŷ opera nad oedd Bryn Terfel am siomi'r gynulleidfa er gwaetha ei lwnc tost.
"Ar gyfer prif rannau fel hyn does neb yn ail lais ac felly roedd yn rhaid i ni ddod o hyd i berfformiwr arbennig," meddai llefarydd ar ran y tŷ opera.
"Yn ffodus, roedd Syr Donald ar gael ond roedd yn anodd i Bryn gan mai hon oedd noson olaf y sioe.
"Ond roedd y gynulleidfa yn gyffro i gyd wedi iddyn nhw ddod i wybod beth yn union oedd yn digwydd - roedd awyrgylch arbennig yn yr awditoriwm."