Ein gohebydd Iolo ap Dafydd sydd newydd ddod yn ôl o Sri Lanka lle gwelodd effaith y daeargryn a cholled y trigolion wrth geisio ail-adeiladu eu dyfodol.
Teulu yn Sri Lanka yn edrych ar y difrod
|
Mae argraffiadau cyntaf yn tueddu i aros ac mewn "paradwys o ynys" ble mae'n haf o hyd o ran tywydd a hinsawdd, mae Sri Lanka mewn poen.
Y boen sy'n deillio o chwalfa natur na welodd neb erioed, colli 30,000 o ynyswyr wedi'r tsunami.
Mae rhai yn disgwyl i'r cyfanswm godi.
Gall rhywun deimlo'r boen o golli teulu a phlant, y pryder am golli cartref a bywoliaeth, ac ofn, amheuaeth ac ansicrwydd am y dyfodol.
Dwi wedi gweld llai o ddinistr yn yr hen Iwgoslafia ac Irac na'r hyn a welais yn Galle a Hikkaduwa yn Sri Lanka.
Dyma ddwy ganolfan ymwelwyr, dwy dref wyliau wedi eu dryllio oherwydd tonnau 30 troedfedd o uchder.
Mewn mannau mae'r môr wedi treiddio hyd at ddwy filltir i mewn i'r tir mawr.
Dwyn plant
Mae rhai cymunedau wedi eu difetha'n llwyr, pob tŷ, cwch pysgota, bwyty a pholyn teleffon yn yfflon.
Ac ymysg yr adfeilion mae pobl yn glynu'n styfnig wrth yr hyn sy'n weddill.
Person yn Sri Lanka yn derbyn triniaeth feddygol
|
Yn aml yn Galle wedi iddi nosi mae tanau agored yn mudlosgi yng nghanol waliau wedi dymchwel, a chysgodion llechwraidd yn symud yn araf.
Yng nghanol chwalfa gymdeithasol mae storïau a mythau wedi datblygu.
I ni, ohebwyr rhyngwladol, mae ambell stori y gallai ychydig o wirionedd berthyn iddi tra bod rhai eraill yn anesboniadwy.
I'r trigolion lleol, maen nhw'n ffeithiau sicr.
Gan fod y diwydiant pysgota ar stop, a 25,000 o longau 'sgota yn chwilfriw, go brin y byddai'r cyhoedd yn prynu pysgod p'run bynnag.
Y rheswm? Mae rhai'n amau fod y pysgod wedi bwyta cig dynol wedi i filoedd ar filoedd gael eu sgubo allan i Gefnfor India.
Si arall ar led ydy bod gangiau di-egwyddor yn dwyn plant i'w gwerthu a bod merched yn cael eu treisio mewn canolfannau ffoaduriaid dros dro.
Goroesi
Dywedodd Daisy Lowe o Donypandy, yn wreiddiol o Batticaloa ar arfordir dwyreiniol yr ynys, fod y wên naturiol ar wyneb y Sri Lanciad cyffredin wedi mynd am y tro.
Cymaint ydy'r gofid a'r boen fel bod goroesi a byw yn bwysicach na'r sirioldeb arferol.
Mae miloedd o gyrff heb eu darganfod eto, mae'n debyg, a nifer wedi hen anobeithio canfod eu hanwyliaid.
Problem fawr arall ydy ail-gartrefu bron tua 1m o bobl.
O ystyried penderfyniad y llywodraeth i atal unrhyw un rhag byw rhwng 200 a 300 metr i'r traethau bydd canfod tir ar ynys mor boblog a chodi tai'n wyrth cynllunio, yn wyrth ariannol.
Creithiau
Yn olaf, bydd yn rhaid i'r ynyswyr wynebu effeithiau seicolegol y tsunami.
Bydd cenhedlaeth newydd â chreithiau am gryn amser ac eisoes mae cenhedlaeth y rhyfel cartref rhwng y Sinhalese a'r Tamil, ynghyd â chanran uchel o bobl ddiwaith, yn achosi problemau cymdeithasol dwfn.
Er haelioni'r byd, bydd asiantaethau dyngarol - sy'n gweithio'n ddi-flino ers pythefnos a hanner - yn gorfod ein hannog i roi mwy na hen ddillad a blancedi i godi Sri Lanka yn ôl ar ei thraed.