BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 9 Ionawr, 2005, 11:10 GMT
Cyfri costau'r difrod llifogydd
Llifogydd Llanrwst
Bu'r gwasanaethau argyfwng yn gweithio drwy'r nos yn llifogydd Llanrwst

Mae trigolion Dyffryn Conwy yn dechrau cyfri costau difrod y llifogydd wrth iddynt glyrio'r llanastr yn eu cartrefi am yr ail dro mewn blwyddyn.

Bobl ardal Llanrwst a Threfriw sydd wedi diodde waethaf o'r tywydd garw yng Nghymru wedi i'r afon Conwy orlifo.

Roedd llawer o'r rhai gododd fore Sul i wynebu'r gwaith digalon o adnewyddu eu tai wedi dioddef yr un broblem ym mis Chwefror y llynedd.

Adolygu amddiffynfeydd

Stryd Fawr Trefriw oedd un o'r ardaloedd gafodd ei daro waethaf, ac yno roedd rhai trigolion dim ond wedi dychwelyd i'w cartrefi ychydig fisoedd yn ôl ar ôl atgyweiriadau costus.

Mae rhai yn flin bod amddiffynfeydd llifogi ar hyd lannau Afon Conwy wedi methu yn yr un ffordd â llynedd.

Cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd yn ystod y flwyddyn i drafod y mater.

Dywedodd Asiantaeth yr Amgylchfyd bod y ddau achlysur o lifogi yn hynod anghyffredin, ac nad oedd modd i'w rhwystro.

Ond maent wedi cytuno adolygu'r drefn amddiffyn eto.

Syrthiodd gwerth deufis o law mewn 24 awr yn ardal Eryri ac mae'r rhagolygon tywydd yn rhybuddio mwy o law a gwyntoedd cryfion yn ystod dydd Sul.

Gosod bagiau tywod
Mae trigolion yn ceisio rhwystro mwy o ddŵr rhag ddod i mewn
Achub

Ar nos Wener bu'n rhaid achub dau wedi i'w fan cael trafferthion mewn llifogydd yn Nhrefriw, ger Llanrwst.

Mewn achlysur arall, roedd yn rhaid i dîm o arbenigwyr ryddhau dynes oedd yn sownd mewn car ar yr A470 ger Maenan.

Mewn rhai mannau cododd lefel y dŵr o bedair troedfedd wrth i'r Afon Conwy orlifo.

Bu'n rhaid i'r gwasanaethau argyfwng ddod o hyd i lety i nifer o bobl fethodd dychwelyd i'w cartrefi ym Mlaenau Ffestiniog a Dolwyddelan.

Llifogydd ym Metws y Coed
Mae'r afon Conwy wedi gorlifo yn Llanrwst gan greu difrod mewn tai

Ond er gwaetha'r llifogi difrifol, nid oedd angen gofyn wrth bobl fudo o'u tai.

Gwynt o 81 mya

Achosodd wyntoedd cryfion ddifrod drwy'r canolbarth ac yn Mumbles, ger Abertawe, nodwyd cyflymdra o 81 milltir yr awr.

Bu pontydd o Fôn i Fynwy ar gau oherwydd y gwyntoedd cryfion.

Ac ar draws y wlad roedd ffyrdd ar gau oherwydd llifogydd a choed a lampau oedd wedi cwympo yn y stormydd.

12,500 heb drydan

Yn ôl y cwmni trydan MANWEB, roedd 10,000 o gartrefi yn y gogledd heb bŵer fore Sadwrn.

Yn ne Cymru, dywedodd SWALEC bod 2,500 o dai ar draws yr ardal wedi eu heffeithio.

Roedd ymdrechion i ail-gysylltu trigolion yn cael eu amharu gan ffyrdd wedi cau.

Claddfeydd sbwriel

Landfill site
Roedd rhaid cau dwy gladdfa sbwriel oherwydd gwyntoedd cryfion

Roedd rhaid i gasglu sbwriel ddod i ben yng Nghonwy a Sir Fflint oherwydd roedd y gwyntoedd stormus yn golygu fod y claddfeydd sbwriel ar gau.

Cafodd plant ysgol yn Queensferry eu danfon adre wedi i'r stormydd ddifrodi adeilad.

Mae disgwyl i'r gwyntoedd ostegu dros y penwythnos, ond mae'r glaw am barhau, yn enwedig yn y gogledd orllewin, dywedodd.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^