Gwrthodwyd cynlluniau i ehangu'r marina ym Mhwllheli
|
Mae cynrychiolwyr o Lywodraeth y Cynulliad a rhai o gynghorau Cymru wedi ymweld â thri marina yn Llydaw i weld a all Cymru ddysgu gwersi.
Ar hyn o bryd mae yna gynlluniau i ddatblygu neu ehangu sawl marina yng Nghymru a gall cynlluniau o'r fath brofi'n destun dadlau yn lleol.
Yn ogystal â'r cynllun dadleuol i ehangu'r marina ym Mhwllheli, a gafodd ei wrthod ddiwedd mis Mehefin, mae yna gynlluniau i ymestyn y ddarpariaeth yng Nghaergybi ac Abertawe.
Mae yna drafodaethau hefyd i ddatblygu marinas yn ardal Biwmares, Abergwaun, Penfro a Phorthcawl.
Fe fu cynrychiolwyr o Lywodraeth y Cynulliad, Awdurdod Datblygu Cymru, a rhai o'r cynghorau yn ymweld â thri marina gwahanol yn Llydaw yn ddiweddar i weld sut mae'r Llydawyr wedi datblygu atyniadau i ymwelwyr ar lan y môr.
Ym mhentref La Foret mae yna le i 1,200 o gychod yn y marina.
Dechreuodd y gwaith adeiladu yno yn y 1970au ac erbyn hyn mae yno dai, siopau a dau gwrs golff yn agos at lan y môr.
'Datblygiad sensitif'
Ond mae wedi ei ddatblygu yn raddol dros y 30 mlynedd diwethaf a chafodd y cynllun gwreiddiol, oedd yn cynnwys dau westy mawr, ei wrthod.
"Fe wnaethon ni wrthod y datblygiad hwnnw oherwydd roedd yn gyfan gwbwl anaddas ac yn gwbwl amherthnasol i fywyd arferol yr ardal hon," meddai dirprwy faer y pentref, Christian Le Pape.
"Dwi'n sicr fod pawb yma'n fodlon gyda'r datblygiad fel y mae. Mae'n ddatblygiad sensitif ac mae'r bobl leol yn elwa o'r marina.
"Mae perchnogion y ffermydd sy'n agos at y marina wedi agor gwersylloedd a chwrs golff ac mae'r marina yn cynnal y bobl leol," meddai.
Mae Sasha Davies o'r Awdurdod Datblygu, yn credu mai cydweithio sy'n arwain at lwyddiant y cynlluniau yn Llydaw.
"Yma maen nhw wedi cydweithio gyda'i gilydd yn gadarnhaol iawn," meddai.
"Mae'r gwahanol gynghorau yma ar lefel gymunedol, cynghorau sir a rhanbarthol - i gyd yn cydweithio'n dda ac yn deall yn iawn beth mae pobl y pentrefi ei eisiau a sut maen nhw am weld y gwahanol ddatblygiadau'n symud ymlaen.
Problemau
"Un peth sy'n bwysig yw fod pobl Llydaw yn edrych tuag at yr 20 a'r 30 mlynedd nesaf ac mae ganddyn nhw weledigaeth ac amcanion cryf.
"Yn bendant dyna sut yr ydyn ni eisiau i bethau ddatblygu yng Nghymru."
Ond mae problemau wedi bod gyda'r datblygiadau yn Llydaw hefyd.
Ym mhentref Benodet mae'r marina wedi ei ddatblygu rhyw hanner milltir i fyny'r afon L'Odet er mwyn cadw naws draddodiadol yr harbwr ar lan y môr.
Erbyn heddiw mae'r awdurdodau lleol yn dweud fod yna gefnogaeth i'r cynllun gan fod pob cwch sy'n defnyddio'r marina yn gwario tua £100 ar gyfartaledd yn y dref.
"Roedd yna wrthwynebiad yn y dechrau, roedden nhw'n (y bobl leol) yn ofni beth fyddai'n ei olygu i'w hardal nhw," meddai maer Benodet, Christian Pennanech.
Cefnogi
"Ond roedd angen gwella'r cyfleusterau i bobl sy'n hwylio ac felly fe aeth y cyngor ati i adeiladu'r harbwr a dangos i'r bobl beth oedd ganddyn nhw.
"Yn araf fe sylweddolodd y bobl beth oedd ganddyn nhw ac fe ddechreuon nhw ei gefnogi.
"Fe ddechreuon nhw'n fach ac yna ar ôl ennill cefnogaeth y bobl fe ddatblygon nhw ymhellach."
Yn Llydaw, mae'r ystadegau'n dangos mai Ffrancwyr yw mwyafrif helaeth y rhai sy'n defnyddio'r cyfleusterau.
Mae'r awdurdodau'n dweud bod marina yn dod â manteision amlwg i economi ardaloedd glan môr ond er mwyn iddyn nhw lwyddo mae'n rhaid cael cefnogaeth y bobl leol.