Helpodd y ddau i chwilio am gyrff wedi i'r tsunami daro eu ynys
|
Mae athro o ganolbarth Cymru wedi adrodd ei hanes o weld dinistr enbyd y tsunami tra oedd ar ei fis mêl.
Fe aeth Aled Price, o Fachynlleth, a'i wraig, Sue, ar wyliau i Ynys Phi Phi yng Ngwlad Tai cyn y Nadolig.
O fewn dyddiau roeddynt yng nghanol y ddymestl ac yn helpu bobl i geisio ddod dros y drychineb.
Mae Sue, o Gaerdydd, yn feddyg, a bu'n brysyr iawn yn helpu'r rhai oedd wedi'u anafu.
'Colli teulu'
Yn ffodus, dim ond cleisiau gafodd y ddau, tra o'u cwmpas gwelsant bobl oedd wedi colli eu teuluoedd a'u holl eiddo.
"Roedden ni'n lwcus iawn lle roedden ni achos fe ddaeth y don o'r cyfeiriad arall ar yr ynys," dywedodd Aled mewn cyfweliad ar Daro'r Post, Radio Cymru ddydd Mercher.
"Yr unig beth gafon ni oedd y môr yn codi o rhyw bedair troedfedd ac yn rhedeg yn syth drwy'r gwesty."
Ar ochr arall yr ynys aeth y môr drwy dau bentref lle roedd llawer o weithwyr gwesty Aled a Sue yn byw.
 |
Roedd yr arogl yn afreal, dwi ddim wedi arogli dim tebyg erioed
|
"Rhwng y don gyntaf a'r ail don, fe gerddon ni i lawr lle roedd y ganolfan ddeifio ac ar y ffordd i lawr roedd dynes oedd wedi gweini arnon ni amser brecwast yn beichio crio.
"Roedd wedi colli gŵr a dau o blant."
Ynys Phi Phi lle arhosodd y ddau ar eu mis mêl
|
Chwilio am gyrff
Gan feddwl mai dim ond Phi Phi oedd wedi ei effeithio, penderfynodd y ddau, sydd nawr adref yn Plymouth, aros.
Ar ôl darganfod bod ffrind newydd yno o'r Swisdir wedi colli ei wraig, fe helpodd y ddau i chwilio am bobl oedd wedi eu hanafu.
Ond yn fuan iawn sylweddolodd y ddau mai chwilio am cyrff oedden nhw.
"Roedd teimlad oeraidd i gerdded i mewn i un pentref o'i gymharu â'r diwrnod cynt.
"Roedd yr arogl yn afreal, dwi ddim wedi arogli dim tebyg erioed."
"Roedd cymaint o gyrff yno roedden nhw'n eu llosgi ar y traeth ei hun erbyn y diwedd."
Fe ddaeth tîm achub o Japan i helpu, ond fe gafodd Aled yr argraff eu bod yno i chwilio am orllewinwyr.
"Roedden nw'n symud ymlaen wedyn ac roedd hi i fyny i'r bobl leol i ddod o hyd i'w teuluoedd eu hunain."
'Rhyddhâd'
Siaradodd mam Aled, Mary Price, o Fachynlleth, am y rhyddhâd anfarwol y cawsant o wybod bod y ddau yn ddiogel.
"Dani wedi bod yn ffodus iawn - fedrai'm peidio meddwl am y rhai sydd wedi colli bobl," dywedodd.
"Mae Aled a Sue yn iawn ond mae nw wedi gweld llawer tydyn nhw ddim yn deud wrthyn ni eto.
"Mae'r profiadau mawr yn dod allan yn raddol," ychwanegodd.