Mae cymorth yn dechrau cyrraedd Indonesia
|
Mae pobl Cymru wedi cyfrannu mwy na £5m at ddioddefwyr trychineb Asia, medd pwyllgor.
Dywedodd Brendan Gormley, prif weithredwr Pwyllgor Materion Brys Trychinebau ddydd Mawrth y galli'r apêl yng ngwledydd Prydain godi mwy na £100m.
Yn y cyfamser, mae wedi dod i'r amlwg fod cyn-ddirprwy olygydd papur newydd y Western Mail ymhlith y rhai sydd ar goll wedi'r drychineb.
Roedd Barry Michael Lloyd-Jones, 68 oed, ar wyliau gyda'i wraig Kath mewn gwesty ar lan y môr yn Khao Lak, Gwlad Tai, pan darodd y don.
Cafodd Mrs Lloyd-Jones, 56 oed, ei chanfod yn fyw ond yn dioddef o sioc difrifol ddydd Mercher ac nid oedd yn gallu siarad am dri diwrnod.
Mae ei gŵr, newyddiadurwr wedi ymddeol, wedi treulio sawl mis yn yr ardal yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae ei fab, Nigel, 42 oed, wedi hedfan i Wlad Tai i helpu i chwilio am ei dad.
Peiriannau puro dŵr
Eisoes mae gwleidyddion wedi gofyn i'r llywodraeth a'r cyhoedd gynyddu rhoddion i'r ymgyrch.
Galwodd yr Arglwydd Roberts o Landudno ar y llywodraeth i gyfrannu peiriannau sy'n puro dwr y Weinidogaeth Amddiffyn at yr apêl.
Dywedodd llefarydd cymorth rhyngwladol y Democratiaid Rhyddfrydol yn Nhŷ'r Arglwyddi fod y peiriannau'n hel llwch mewn stordai.
Ond gallen nhw roi cyflenwad o ddŵr glân i bobl sydd wedi colli eu cartrefi wedi'r tsunami, meddai.
"Rwy'n croesawu cyfraniad ariannol y llywodraeth ond gallai wneud mwy.
"Mae gan y Weinidogaeth Amddiffyn 300 o beiriannau puro dwr mewn stordai ac rwy'n gofyn i'r llywodraeth eu rhyddhau ar unwaith oherwydd bod yr angen yn fawr."
Diwrnod o gyflog
Mae Plaid Cymru wedi galw ar Aelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad i gyfrannu diwrnod o gyflog at yr apêl.
Dywedodd Elfyn Llwyd, AS, y byddai'r cynllun yn codi £200,000.
"Yn bwysicach, byddai'n rhoi esiampl i weddill Prydain ar sut i godi arian, yn enwedig o ran help tymor-hir.
"Mae llawer o aelodau wedi gwneud eu trefniadau eu hunain i helpu.
"Ond byddai cyfraniad ychwanegol fel hyn yn golygu cyfraniad di-dreth i'r elusennau."
Mae'r cyhoedd wedi cefnogi nifer o ymgeision i hel nwyddau ac arian i bobl Asia.
Yng Ngogledd Cymru mae siopau'n casglu arian oddi wrth siopwyr, gan gynnwys Boots yn y Trallwng, ac Asda yn Wrecsam.
Mae clybiau rotari yn helpu paratoi blychau i bobl sydd wedi colli eu heiddo i gyd yn y drychineb.
Yn Swydd Derby y mae'r blychau, sy'n cynnwys offer puro ddwr, pabell, stôf nwy a dillad, yn cael eu casglu.