BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 4 Ionawr, 2005, 12:04 GMT
'Angen help ar brynwyr tai ifanc'
Penygroes, Dyffryn Nantlle
Mae'r Gymdeithas am sicrhau fod pobl leol yn cael mynediad i'r farchnad dai

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw am Ddeddf Eiddo i Gymru yn eu rali gyntaf yn 2005.

Mewn rali yng Nghaernarfon honnodd Cymdeithas yr Iaith fod Llywodraeth y Cynulliad yn llaesu dwylo gan danseilio cymunedau a'r iaith Gymraeg.

Yn ei Rali Calan ddydd Llun tynnodd aelodau sylw at yr argyfwng tai a'r angen am Ddeddf Eiddo.

Y llynedd roedd protestiadau a ralļau, meddai'r mudiad, oherwydd argyfwng tai yng nghefn gwlad Cymru.

Ddydd Llun honnodd nad oedd yr un ty ar werth yng Nghaernarfon am bris llai na £60,000.

Mae'r Gofrestrfa Dir wedi dweud mai cyfartaledd pris tai drwy Wynedd yw £130,000 a dywedodd Cyngor Gwynedd mai £15,900 oedd cyfartaledd cyflog yn y sir.

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith ei fod am bwyso ar Lywodraeth y Cynulliad i leddfu effeithiau'r argyfwng tai ar gefn gwlad ac ar y rhai oedd yn ceisio prynu cartref am y tro cyntaf.

'Ymgyrchu'

"Tra bod y llywodraeth yn llaesu eu dwylo, mae'r ffigyrau hyn yn pwysleisio eto fod effeithiau'r argyfwng tai yn parhau i danseilio cymunedau lleol a'r iaith Gymraeg," meddai Cadeirydd y Gymdeithas, Huw Lewis.

"O ganlyniad...rhaid bellach ymgyrchu dros newidiadau sylfaenol, gan gynnwys elfen o reolaeth ar y farchnad dai."

Byddai Deddf Eiddo yn sicrhau fod pobl leol yn cael mynediad i'r farchnad dai, fod prisiau tai yn adlewyrchu'r farchnad leol, fod datblygiadau tai yn adlewyrchu'r angen lleol, meddai.

"Bu ein haelodau ers misoedd yn ail-edrych ar ein polisi ac yn rhoi ystyriaeth i ddatblygiadau diweddar yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o Brydain ac Ewrop," meddai.

Gofynnwyd i Lywodraeth y Cynulliad am eu sylwadau fore Mawrth ond ni chafwyd ymateb hyd yn hyn.




HEFYD:
Cyngor: Trafod argyfwng tai
25 Medi 03 |  Newyddion
Cymdeithas i hybu tai i'r ifanc
01 Gorff 04 |  Newyddion
'Tai rhad i bobol leol'
30 Medi 04 |  Newyddion
Cynulliad yn trafod tai gwledig
25 Medi 03 |  Newyddion
Tai 'lleiaf fforddiadwy' mewn sir
11 Tach 04 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^