Mae'r cynllun werth £2m
|
Mae neuadd enwog yn y gorllewin yn mynd i gael ei hailgodi o'r llwch oherwydd arian o Ewrop.
Cafodd Pafiliwn Pontrhydfendigaid ger Tregaron ei ddifrodi gan dân dair blynedd yn ôl.
Bu'r pafiliwn yn llwyfan i rai o brif ddiddanwyr Cymru ac eisteddfodau a'r gobaith yw denu'r torfeydd unwaith eto.
Cyfanswm y gost yw £2m ac mae £800,000 wedi dod o gronfa Amcan Un.
Mae'r prosiect yn rhan o raglen adfywio Tregaron.
Enwogion
Dywedodd Selwyn Jones, o Gwmni Pafiliwn Cyf, ei fod yn cofio Jools Holland yn perfformio yn y pafiliwn.
"Bu'r Alarm a Mike Peters a Dr Feel Good yno hefyd," meddai.
Cafodd yr hen bafiliwn ei ddifrodi gan dân
|
Dywedodd Jim O'Rourke, o bwyllgor ailddatblygu'r pafiliwn, y byddai'n ganolbwynt i gryfhau economi'r ardal.
"Mae'n allweddol fod rhywbeth yn yr ardaloedd gwledig ar gael i bobl ifanc er mwyn i'w cadw yn ardal Tregaron.
Yng Ngorffennaf cyhoeddwyd y byddai £700,000 yn cael eu gwario ar wella delwedd Tregaron.
Perchnogion eiddo yng nghanol tref Tregaron fydd yn derbyn grantiau ar gyfer Cynllun Treftadaeth Tregaron.
Derbyniodd Cyngor Sir Ceredigion £240,000 o arian Amcan Un.