Mae tonnau'r môr wedi greu llanast
|
Mae un gŵr o dde Cymru wedi sefydlu gwefan i gasglu cefnogaeth ar gyfer y drychineb yn Asia.
Wythnos ers y daeargryn yng Nghefnfor India arweiniodd at y tsunami laddodd miloedd o bobl ac a ddinistriwyd nifer o bentrefi mewn mwy nag un wlad.
Eisoes mae dros £60m wedi cael ei gasglu'n barod gan bobl Prydain ar gyfer yr apêl gyda dros 5m o bobl yn ddi-gartref yn Asia.
Yn ôl y ffigyrau diweddara mae 124,000 o bobl wedi cael eu lladd gyda miloedd ar goll ac mae'r Cenhedloedd Unedig wedi rhybuddio y gallai'r ffigwr derfynol fod yn nes at 150,000.
Mae'r Cenhedloedd Unedig yn rhybuddio y gall gymeryd 10 mlynedd i gael trefn yn y gwledydd gafodd eu heffeithio.
Bwriad Gareth Strangemore-Jones o Benarth drwy wefan Tsunami Relief Cymru ydy galw am gymorth creadigol Cymru i gymryd rhan mewn cyfres o ddigwyddiadau i godi ymwybyddiaeth am yr hyn a ddigwyddodd ac i godi arian ar gyfer apêl ryngwladol mudiad Oxfam.
Gobaith Mr Strangemore-Jones ydy y bydd TRCymru yn llwyfan ar gyfer artistiaid a pherfformwyr i gyfrannu eu sgiliau ar gyfer yr apêl.
Dim help ariannol
Daw sefydlu'r cymorth yma ddiwrnod ar ôl i Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, ddweud y byddai'n gefnogol iawn i syniad arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol i gynal cyngerdd er budd yr apêl, yn debyg i gyngerdd Band Aid.
Yn ôl Mike German, mae 'na "gymaint o dalent yng Nghymru", fel y mae modd cynnal cyngerdd a rhaglen a fyddai'n denu cynulleidfaoedd mawr.
Bydd rhaid i 1.7m o bobl gael eu bwydo am fisoedd yn ôl y Cehedloedd Unedig
|
Dywedodd Mr Morgan ei fod yn cymeradwyo'r syniad ac y byddai'n barod i dderbyn syniadau ar ffordd orau y gall Cymru wneud cyfraniad ar gyfer yr apêl.
Ychwanegodd nad oes modd i lywodraeth y cynulliad roi arian uniongyrchol tuag at leddfu'r dioddefaint ond fe all gynnig cymorth ymarferol.
"Does dim hawliau ganddon ni fel cynulliad i ddefnyddio arian trethdalwyr i helpu oherwydd dydy'r pwerau i helpu mewn sefyllfaoedd tramor ddim ganddon ni.
"Ond mae modd i drigolion Cymru gyfrannu'n wirfoddol ac fe fydd rhaid ddibynnu ar ymdrechion gwirfoddol.
"Fe allwn ni fel cynulliad roi cefnogaeth yn yr ystyr moesol a hwyluso pethau os ydy'r arweiniad a'r gwariant cyhoeddus yn dod o'r ochr wirfoddol."
Cefnogaeth
Bwriad Mr Strangemore-Jones, sy'n drefnydd digwyddiadau o Lundain ond sydd wedi symud yn ôl i fyw yn ne Cymru, ydy lansio TRCymru yn swyddogol ganol mis Ionawr.
Ond mae o eisoes wedi derbyn cefnogaeth ar lafar gan rai o brif sefydliadau Caerdydd.
"Ar ôl gwylio'r teledu a'r newyddion dros y dyddiau diwethaf roeddwn yn teimlo bod angen gwneud rhywbeth," meddai.
Mae rhywfaint o'r cymorth o'r gorllewin yn cyrraedd
|
"Yn fy marn i mae ymdrech ar gyfer cymorth cynaliadwy yn mynd i ddenu cefnogaeth y cyhoedd ac yn hyn o beth mae cyngerdd yn ffordd dda o gasglu arian.
"Dwi eisoes wedi cael cefnogaeth ar lafar gan Undeb Rygbi Cymru, Stadiwm y Mileniwm, banciau a Chwmni Bws Caerdydd.
"Mae'n fwriad gen i gael gymaint â phosib o bobl greadigol i gymryd rhan."
Dywedodd beth bynnag ydy'ch talent o fod yn fand i fod yn actor, yn gyfarwyddwr, bardd, cynllunydd neu'n jyglwr, mae'n aros i gael galwad ffôn.
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio gallu cyhoeddi manylion y cyngerdd o fewn yr wythnos nesaf.
Mae modd cael mwy o wybodaeth ar y wefan yn www.trcymru.org
Rhif ffôn yr apêl Prydeinig ydy 0870 60 60 900.