Does dim casglu cocos wedi bod yn aber Afon Tywi ers 2002
|
Bydd heddlu a gwylwyr y glannau ar ddyletswydd yn ardal Llansteffan, Sir Gaerfyrddin, ddydd Iau wrth i bobl fynd ati i gasglu cocos.
Mae disgwyl y bydd cannoedd o gasglwyr cocos yn ardal aber Afon Tywi am eu bod nhw'n cael hawl i gynhaea'r gwelyau cocos am y tro cyntaf ers tair blynedd.
Yn y gorffennol mae 'na drafferth wedi bod rhwng casglwyr wrth iddyn nhw gystadlu am y pysgod cregyn.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn rhybuddio casglwyr y byddan nhw'n wrth law i atal unrhyw wrthdaro rhwng gwahanol grwpiau o gasglwyr.
Mae'r gwelyau cocos wedi bod ar gau ers mis Chwefror 2002 ac mae 'na gryn edrych ymlaen i'r ail ddechrau oherwydd y cyfoeth sydd ar gael.
Mae rhai asiantaethau yn rhagweld y bydd oddeutu 1,000 yn yr ardal dros y deuddydd nesaf.
Yn y gorffennol mae 'na wrthdaro wedi bod a difrod yn cael ei wneud i gerbydau'r casglwyr.
Fe fydd nifer o asiantaethau yn sicrhau trefn ddydd Iau gan gynnwys yr heddlu a swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin.
Bydd adran mewnfudo'r Swyddfa Gartref yn monitro'r sefyllfa ac fe fydd Pwyllgor Awdurdod Pysgota Môr De Cymru hefyd yn bresennol.
Nhw sy'n trwyddedu'r casglwyr gan bod rhaid i bawb fydd yn casglu gael caniatâd.
Cymorth
Ym mis Chwefror 2004 cafodd 23 o bobl o China eu lladd wrth gasglu cocos ym Mae Morecambe.
Ers y ddamwain mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cyflwyno canllawiau newydd i'r casglwyr.
Ymhlith y canllawiau mae 'na argymhelliad bod y rhai sydd yn mynd ati i gasglu yn gwybod manylion am y llanw, y tywydd a bod modd iddyn nhw gysylltu os ydyn nhw angen cymorth.
Un o'r gwasanaethau brys fydd ar ddyletswydd ydi Gwylwyr y Glannau.
"Rydan ni'n pryderu y bydd pobl yn cael trafferthion ar y tywod ac ar y môr gan bod lot o bobl ddim yn nabod yr ardal," meddai Mark James o wasanaeth Gwylwyr y Glannau.
"Dydi llawer ddim yn siarad Saesneg ac mae 'na lawer wedi dod mor bell â'r Alban a bob man yn Lloegr.
"Rydan ni wedi trio meddwl sut y byddan nhw'n cyrraedd y gwelyau i gasglu'r cocos a sut y gallwn ni fynd allan i geisio eu hachub os fydd rhywbeth yn digwydd."
Fe fydd y casglwyr yn casglu o ddau gyfeiriad, o'r môr ar gychod ac o'r lan ar gerbydau.
Dyma fydd y diwrnod cyntaf ac mae 'na obaith adfer y digwyddiad bob dydd Iau a dydd Gwener o hyn ymlaen.