BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 1 Ionawr, 2005, 14:19 GMT
Beicwraig yn gystadleuydd cudd
Nicole Cooke
Nicole Cooke oedd y rhedwr cudd eleni

Nos Wener yn Aberpennar fe gafodd ras flynyddol Nos Galan ei chynnal.

Roedd dros 400 o bobl yn cymryd rhan yn y digwyddiad blynyddol sy'n ras gyda'r dorch lle mae rhedwr cudd yn cludo'r ffagl o fedd y rhedwr chwedlonol Guto Nyth Brān yn Llanwynno i ganol tref Aberpennar.

Eleni, y feicwraig Nicole Cooke, oedd y gystadlydd cudd.

Ac am y tro cyntaf hefyd cafwyd gorymdaith gyda lllusernau drwy ganol Aberpennar.

Mae'r rasys wedi cael eu cynnal yng Nghwm Cynon ers 1958 ac mae 'na ras ar gyfer y plant ac ar gyfer oedolion.

Roedd ffair ac arddangosfa dān gwyllt yno hefyd.

Mae'r ras yn cael ei chynnal er cof am y rhedwr Guto Nyth Brān ac, yn wahanol i'r arfer, beicio wnaeth y cystadleuwyr cudd eleni i mewn i Aberpennar.

Roedd ymddangosiad Nicole Cooke yn uchafbwynt wrth iddi gario'r ffagl.

Ffagl newydd

Dywedodd y Cynghorydd Albert Davies, Maer Aberpennar, bod hi wedi bod yn noson a hanner.

"Roedd cannoedd yma ac roedd gweld Nicole yn goron ar y cyfan," meddai.

Ar ōl gadael torch o flodau ar fedd Guto Nyth Brān fe redodd Ms Cooke dros y mynyddoedd i Aberpennar lle'r oedd cannoedd o bobl yn aros i'w gweld.

Yno fe oleuodd hi ffagl newydd er cof am y rhedwr chwedlonol i gychwyn ras yr oedolion.

"Mae'n braf gweld cynifer yma, yr hen a'r ifanc," ychwanegodd y cynghorydd Davies.

"Mae hyn yn profi pa mor boblogaidd ydy'r noson yma yng nghalendr yr athletwyr."

Mae llu o enwogion wedi rhedeg gyda'r ffagl gan gynnwys y chwaraewr rygbi Stephen Jones yn 2003, Matt Elias yn 2002, Christian Malcolm yn 2000, Iwan Thomas ym 1997 a Neil Jenkins ym 1995.




HEFYD:
Ras i groesawu'r Flwyddyn Newydd
31 Rhag 03 |  Newyddion
Ras ar drothwy Blwyddyn Newydd
31 Rhag 02 |  Newyddion



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^