Mae galw am gerflun i gofio am Dr Gwynfor Evans
|
Mae yna anghytuno ynglŷn â'r bwriad i godi cerflun o'r diweddar Gwynfor Evans, a fu farw yn 92 oed yn Ebrill eleni, yng Nghaerfyrddin.
Mae cylchgrawn Cambria wedi agor cronfa i dalu am gerflun ac yn gobeithio codi'r gofeb yng nghanol y dref.
Byddai hynny, medden nhw, yn golygu symud cerflun sydd yno nawr o'r Cadfridog Nott a dyna mae'n debyg sydd wedi arwain at yr anghytuno.
Sgwâr Caerfyrddin oedd llwyfan buddugoliaeth enwog Gwynfor Evans yn 1966 a Sgwâr Nott dafliad carreg i ffwrdd oedd lleoliad y cyfrif pan enillodd yr etholiad yn 1974.
Dywed Peter Hughes Griffiths fu'n gweithio dros y gwleidydd yng nghyfnod yr etholiadau hynny, y byddai un o'r ddau le yn ddelfrydol i godi cerflun.
Cerflun pres
"Yn ddiweddar mewn cymanfa ganu fawr yn nhref Caerfyrddin i gofio am Gwynfor fe wnaeth Dr Geraint Jenkins ein hatgoffa bod cofgolofn i Lloyd George yng Nghaernarfon ac un arall i Aneurin Bevan yng Nghaerdydd ac yma yng Nghaerfyrddin y dylai fod."
Ond mae yna broblem gan fod cofeb i gofio'r rhai fu farw yn Rhyfel y Boar dros ganrif yn ôl ar Sgwâr Caerfyrddin.
Ar Sgwâr Nott mae cofeb i'r milwr enwog William Nott
|
Ar Sgwâr Nott mae cofeb i William Nott, arwr Rhyfel Afghanistan ers talwm. Roedd Nott yn filwr enwog yn ei ddydd ar ddechrau Oes Fictoria a hi dalodd am y cerflun pres ohono yn ei lifrai milwrol.
Erbyn heddiw dim ond ychydig o bobl Caerfyrddin sy'n gwybod unrhyw beth am Nott ac awgrymwyd symud y cerflun pres i wneud lle i un o Gwynfor Evans.
Ond dywed llywydd Cymdeithas Hynafiaethwyr Sir Gâr na fyddai hynny'n debyg o blesio pawb yn y dref.
"Dwi ddim yn meddwl y byddai'n dderbyniol iawn gan bobl Caerfyrddin i weld diorseddu rhywbeth maen nhw'n hen gyfarwydd ag ef," meddai'r Parchedig Towyn Jones.
'Pennod newydd'
"Wrth gwrs mae datblygiadau newydd yn cymryd lle yn nhref Caerfyrddin ac mae Gwynfor yn cynrychioli pennod newydd a dwi'n credu y byddai safle felly yn llawer mwy addas na'i osod mewn hen safle lle mae rhywbeth yr ydyn ni'n gyfarwydd ag e'n barod.
"Os yw'n iawn fod tipyn o ailffurfio ar y farchnad, lle byddai llawer o bobl yn ymgynnull ac yn ei weld, dwi'n meddwl y byddai lle felly'n ddelfrydol a'i fod yn cael ei gynllunio efallai yn fwriadol i dderbyn cerflun."
Mae Mr Hughes Griffiths yn cydnabod y gallai troi Sgwâr Nott yn Sgwâr Gwynfor fod yn anodd.
"Mater o drafodaeth fanwl yw hwnnw, mae sawl corff lleol a chenedlaethol y byddai rhaid trafod yn rhesymol â nhw i weld beth sy'n bosib a dwi'n credu mai dyna lle dylen ni ddechrau," meddai.
"Y peth pwysig yw, yn hwyr neu'n hwyrach, fod yna gofgolofn i Gwynfor Evans yn nhref Caerfyrddin."