British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 16 Ionawr 2009, 07:38 GMT
Colli 'un o eiconau'r genedl'

T Llew Jones
Bu farw T Llew Jones yn 93 oed

Bu farw'r awdur plant poblogaidd T Llew Jones.

Roedd yn 93 oed.

Dywedodd yr Archdderwydd Dic Jones mai fe oedd "un o eiconau'r genedl".

"Bydd y genedl gyfan yn gweld ei eisiau fel bardd, athro, beirniad, llenor a darlledwr llais unigryw oedd wedi ei greu ar gyfer meicroffon.

"A bydd llawer ohonom yn teimlo fel petawn yn edrych i gyfeiriad y silff ben tn ac yn gweld un o'r llestri gorau ar goll.

"Dwi'n siŵr bod 'na blant sy'n medru enwi ei lyfrau bob un.

"Roedd e'n deall plant ac yn uniaethu nhw. Hyd yn oed yn ei flynyddoedd olaf, pan oedd rhyw blentyn yn mynd i Ddl Nant i gwrdd 'i arwr, byddai'r oedran yn llithro oddi ar ei ysgwyddau.

"Gorau cyfarwydd yn y byd oedd".

'Brenin'

Dywedodd Gwerfyl Pierce Jones, cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru: "T Llew oedd brenin llenyddiaeth plant yng Nghymru.

"Bu'n ysgrifennu'n ddi-dor drwy ail hanner yr 20fed ganrif - a chreodd gorff o lenyddiaeth sy'n pahau i roi pleser a gwefr i blant heddiw.

"Roedd hefyd yn gyfathrebwr heb ei ail - ac yn storwr penigamp.

"Dotiai at blant, ac roedd plant yn dotio ato yntau.

"Bu'n gyfaill triw i'r Cyngor Llyfrau ar hyd y blynyddoedd ac fe welwn golli ei gyfraniad a'i gwmni'n fawr iawn."

Athro ysgol gynradd

Cafodd ei eni ym Mhentre-Cwrt, Llandysul yn 1915.

Er mai athro ysgol gynradd oedd fe aeth ati i fod yn llenor llawn amser a chanolbwyntio ar farddoni ac ysgrifennu llyfrau ar gyfer plant.

Bu'n athro yn Sir Aberteifi am 35 mlynedd - yn Ysgol Gynradd Tregroes cyn mynd i Ysgol Coed-y-bryn ger Llandysul lle daeth yn brifathro.

Roedd yn un o feistri'r canu caeth a bu'n llywydd y Gymdeithas Gerdd Dafod ers ei sefydlu yn 1976.

Ond roedd hefyd yn ysgrifennu cerddi rhydd.

Enillodd y Gadair yn Eisteddfodau Cenedlaethol 1958 (Glyn Ebwy, am awdl Caerllion-ar-Wysg) a 1959 (Caernarfon, am awdl Y Dringwr).

Hanesyddol

Ym mis Mawrth 2005 enillodd gadair eisteddfod flynyddol Cymdeithas Ceredigion.

Cyhoeddodd dros 50 o lyfrau, yn amlach na pheidio wedi eu seilio ar gymeriadau hanesyddol fel Barti Ddu, Sin Cwilt a Twm Sin Cati.

Enillodd un o'i lyfrau enwocaf, Tn ar y Comin, wobr Tir na n-Og ac enillodd y wobr fwy nag unwaith.

... a chreodd gorff o lenyddiaeth sy'n pahau i roi pleser a gwefr i blant heddiw
Gwerfyl Pierce Jones, Cyngor Llyfrau

Derbyniodd wobr Mary Vaughan Jones yn 1991 am ei gyfraniad i lenyddiaeth plant yng Nghymru.

Ei nofel gyntaf i blant oedd Trysor Plas y Wernen ac roedd yn nodweddiadol o'i gyfrolau i gyd - wedi ei lleoli yng Ngheredigion.

Roedd wrth ei fodd yng nghwmni plant ac i ddathlu ei ben-blwydd yn 83 oed aeth i Ysgol Pontgarreg, sy'n union dros y ffordd i'w gartref, i dreulio'r diwrnod.

Cafodd disgyblion yr ysgol honno, fel holl ysgolion Cymru, eu diddannu gan waith T Llew Jones.

Eithriadol

Ei ddawn eithriadol i sgwennu stori gyffrous oedd y rheswm am hynny.

Ym Mhontgarreg ger Llangrannog y bu T Llew Jones yn byw am flynyddoedd ac o grombil teipiadur hen ffasiwn y daeth ei lyfrau.

"Ysgrifennu oedd y peth gorau roeddwn i'n gallu ei wneud yn yr ysgol 'slawer dydd," meddai.

"Roedd 'na lot o bethau doeddwn i ddim yn gallu eu gwneud.

"Doeddwn i ddim yn arlunydd, a fedrwn i ddim gwneud mathemateg na dim fel 'na, ond mi oeddwn i'n gallu ysgrifennu.

T Llew Jones
Roedd T Llew Jones yn defnyddio hen deipiadur

"Dyma ryw ddawn ges i pan oeddwn i'n fachgen bach - dawn ysgrifennu."

Fe gafodd radd anrhydeddus oddi wrth Brifysgol Bangor i gydnabod ei gyfraniad enfawr i lenyddiaeth plant yn 1977.

Cafodd nifer o'i gyfrolau eu cyfieithu i'r Saesneg ac fe gafodd Tn ar y Comin a Dirgelwch yr Ogof eu haddasu ar gyfer y sgrn fach.

Yn ogystal sgrifennu roedd yn treulio'i amser yn adrodd straeon i gynulleidfa.

Roedd ganddo feddwl mawr o'i ardal gan iddo fyw ar hyd ei oes yn Sir Aberteifi.

Un cwestiwn ofynnwyd iddo'n aml oedd pa lyfr o'i waith oedd ei ffefryn personol.

"Fydda i'n ateb hwnna fel hyn," meddai.

Dim ffefryn

"Dwi'n gofyn i'r un sy'n gofyn y cwestiwn: 'Oes brawd neu chwaer ganddoch chi?' A falle fe ddywedith y ferch fach sy'n gofyn i fi bod dau frawd gyda hi.

"Fe fyddwn i wedyn yn gofyn iddi, 'A fydden i'n gofyn i'ch mam ba un o'r rhain sy' well gyda hi? Beth fyddai hi'n ei ddweud?' Dwi'n gwybod beth y byddai hi'n ei ddweud.

"Fe fyddai'n dweud, 'Dwi'n eu hoffi nhw i gyd, y tri ohonyn nhw'.

"A fel'na dwi'n teimlo am fy llyfrau. Dwi ddim moyn dweud bod un yn well na'r llall.

"Dwi'n teimlo fel tad iddyn nhw a dwi'n eu hoffi nhw i gyd."

Dywedodd ei fod yn galondid i awdur gwrdd 'r plant sy'n darllen ei lyfrau.

"Dwi wedi sgrifennu llawer o lyfrau ... dwi ddim wedi gwneud fy ffortiwn fel awdures Harry Potter ond dwi wedi cael miloedd o lythyrau gan blant, a dyna'r cyfoeth dwi'n ei gyfri o ysgrifennu llyfrau," ychwanegodd.

Yn ogystal mwynhau llenydda roedd yn mwynhau ei wyddbwyll.

Gyda'i fab Iolo fe ysgrifennodd yr unig lyfr am y gm yn yr iaith.

Yn 2002 cyhoeddodd ei hunangofiant, Fy Mhobol I.

• Sylwadau sydd wedi cael eu hanfon at y wefan:

Roedd T Llew Jones yn arwr! Rwyf ym Mlwyddyn 7 Ysgol Bryntawe ac rydyn ni'n darllen Dirgelwch yr Ogof ar hyn o bryd. Mae'n ffantastig! Manon, Abertawe



Chwiliwch yn Gymraeg


HEFYD
Pryder awdur am ddyfodol darllen
03 Hyd 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific