Olion y ddaeargryn: Phucket, Gwlad Thai
|
Mae twristiaid o Gymru wedi dweud pa mor ysgytwol yw effeithiau'r ddaeargryn yn ne a dwyrain Asia.
Daeargryn enfawr yn y môr, 8.9 ar raddfa Richter, sydd wedi lladd 23,000 o bobl.
Tarodd tonnau enfawr arfordir Indonesia, Sri Lanka, De India, Ynysoedd y Maldives a Gwlad Thai.
Roedd miloedd o bobl o Brydain ar eu gwyliau yn y gwledydd hyn ac mae 11 wedi eu lladd.
Roedd Ffion Haf o Ferthyr Tudful yn aros ar ynys Ko Lanta yng Ngwlad Thai.
"Yn gynta, clywais i ru anferthol," meddai.
Gwelodd hi a'i phartner y don yn nesáu. "Roedd yn anferth ac ar draws y môr ac fel rhywbeth mewn ffilm.
"Wrth i'r don nesáu at y lan sylweddolon ni pa mor ffyrnig yr oedd hi."
Anrhefn: Cyrhaeddodd y tonnau'r tir mawr yn Sri Lanka
|
Wrth i fudiadau cymorth rhyngwladol geisio helpu, mae ofnau y gallai heintiau ymledu'n gyflym drwy'r ardaloedd trychineb.
Roedd Armand Watts, cynghorydd o Sir Fynwy, ar ei wyliau yng Ngwlad Thai.
"Tarodd ton anferth y pentre gwyliau a'i chwalu.
"Ar y dechrau, roedd 200 o bobl ar dri mynydd yn aros am y gwasanaethau brys oherwydd bod dim modd eu cyrraedd mewn ambiwlans.
"Does dim arian 'da fi na phasport. Ond mae'r llysgenhadaeth wedi dweud wrthym fod rhaid i ni, rywsut neu gilydd, gyrraedd Bangkok."
Dywedodd Davinder Singh o Abertawe fod effeithiau'r ddaeargryn yn ysgytwol.
Ers Tachwedd mae wedi bod yn gweithio mewn gwarchodfa eliffantod yn Sri Lanka.
"Mae'r holl beth yn afreal - mae cartrefi pobl wedi cael eu chwalu."
Yn Phuket, Gwlad Thai, dywedodd llygaid-dystion i bobl redeg o draethau i ddianc rhag y tonnau anferth.
Roedd adroddiadau i ddeifwyr a rhai oedd yn bolaheulo gael eu sgubo allan i'r môr.
Hon oedd y ddaeargryn fwya yn y byd ers 40 mlynedd ac roedd ei man canol yn Indonesia.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor Jack Staw fod y llywodraeth yn gwneud popeth o fewn ei gallu i helpu goroeswyr.
Rhif ffôn llinell brys y Swyddfa Dramor yw 0207 008 0000.