Richard Morris Jones: Wythnos lwyddiannus er gwaetha'r tywydd
|
Mae Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau 2005 wedi gwneud llawer mwy o elw na'r disgwyl yn ôl swyddogion y Brifwyl.
Cyhoeddodd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod ei fod o bellach yn disgwyl y bydd yna elw o tua £100,000 ar ddiwedd yr wythnos.
Doedden nhw ddim wedi disgwyl gwneud mwy na £70,000 o elw.
Dywedodd Richard Morris Jones fod nifer o elfennau'n gyfrifol am y llwyddiant.
Ymhlith yr elfennau y nododd Mr Morris Jones roedd llwyddiant y pwyllgorau lleol i guro'u targedau o ran codi arian i dalu am yr ŵyl.
"Mae tocynnau ar gyfer cyngherddau nos wedi gwerthu'n arbennig o dda, gyda phob tocyn ar gyfer nifer ohonyn nhw'n cael eu gwerthu cyn i'r Eisteddfod ddechrau," meddai.
"Mae'r niferoedd o bobl sydd wedi ymweld a'r brifwyl wedi bod yn dda iawn ac mae'r cyngherddau a drefnwyd ar gyfer pobl ifanc ar Faes B wedi bod yn boblogaidd iawn hefyd."
Er gwaetha'r tywydd ar gyfnodau yn ystod yr wythnos mae miloedd wedi heidio i'r maes ar stad Y Faenol eleni.
Fe wnaeth 19,489 o bobl ymweld â'r Eisteddfod ddydd Sadwrn mwy nag yng Nghasnewydd y llynedd (15,548) ac ym Meifod (16,438)yn 2003.
Dros yr wythnos mae 157,920 wedi mynd drwy'r giatiau, unwaith eto mwy na'r ddwy Eisteddfod flaenorol - Casnewydd 147,785 a Meifod 155,390.
Fe fydd y golygon bellach yn troi tuag at Abertawe yn 2006.