Uchafbwynt: Helfeydd dydd Llun
|
Yng Nghymru mae cannoedd wedi bod mewn helfeydd, y rhai ola o bosib cyn bod gwaharddiad yn dod i rym.
Yn Chwefror bydd hela â chŵn yn cael ei wahardd yng Nghymru a Lloegr ond gallai her gyfreithiol olygu y bydd oedi cyn i'r ddeddf ddod i rym.
Mae helfeydd Gŵyl San Steffan, un o uchafbwyntiau'r byd hela, yn cael eu cynnal ddiwrnod yn hwyrach eleni am nad ydyn nhw byth yn cael eu cynnal ddydd Sul.
Roedd helfeydd yng Ngwynedd, Sir y Fflint, Sir Benfro, Aberhonddu a Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd mudiadau nad oedden nhw wedi trefnu protestiadau yn erbyn helfeydd dydd Llun.
Dwy her
Yn y de roedd Helfa Llangeinor ym Melin Ifan Ddu ger Pen-y-bont.
"Mae mwy o bobl yma eleni," meddai Darren Hughes o'r Cynghrair Cefn Gwlad.
"Dwi heb weld cymaint ers blynyddoedd ac mae 'na rai'n bresennol sy heb hela erioed."
Ar hyn o bryd mae'r cynghrair yn cyflwyno dwy her gyfreithiol, gan gynnwys un o dan ddeddfwriaeth hawliau dynol Ewropeaidd a allai gael ei thrafod yn y llysoedd am flynyddoedd.
Mae Downing Street wedi dweud na fydd yn gwrthwynebu pe bai'r mudiad yn cyflwyno gwaharddeb allai arwain at ohirio gweithredu'r ddeddf.
b>Gwrthwynebiad
Dywedodd Mr Hughes y byddai gwrthwynebiad yn erbyn y gwaharddiad yn parhau ymhell wedi'r etholiad cyffredinol.
"Mae cymaint o fylchau yn y ddeddfwriaeth.
"Ry'n ni'n ffyddiog y byddwn ni'n dal i hela o fewn y ddeddf.
"Os yw'r llywodraeth yn amau y bydd helwyr a'u cymunedau'n llai penderfynol oherwydd dyddiad gweithredu'r gwaharddiad, maen nhw'n gwneud camgymeriad," meddai.