Hon yw'r ail dro i Tudur Dylan Jones ennill Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol
|
Y bardd Tudur Dylan Jones sy wedi ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol am yr ail dro.
Roedd ei "awdl gyfareddol ymhell ar y blaen", meddai'r beirniaid.
Cafodd Tudur Dylan Jones, mab y Prifardd John Gwilym Jones, ei eni yng Nghaerfyrddin cyn ei fagu ym Mangor.
Dywedodd y beirniaid, Peredur Lynch, Emyr Lewis ac Alan Llwyd, fod "cynildeb rhyfeddol" yn y cyfanwaith.
Ysgrifennodd awdl mewn cynghanedd gyflawn ar y thema 'Gorwelion' ac mae'n canu am y fraint sy'n dod i ran rhieni i drosglwyddo straeon hanes i'r genhedlaeth nesaf.
Yn y gerdd, mae'r tad yn dweud gwahanol straeon o fyd y Mabinogi wrth ei ferch ac yn ofni fod ei gof yn pallu.
Plant
Wrth draddodi'r feirniadaeth, dywedodd Peredur Lynch nad oedd y tri beirniad wedi cytuno'n llwyr am ba fardd oedd ar frig y naw y cystadlodd.
Ond roedd y tri yn gytûn bod awdl Tudur Dylan Jones ymhell ar y blaen.
Ganed Mr Jones yng Nghaerfyrddin ond symudodd y teulu i Fangor lle'r aeth i'r ysgol ac i'r Brifysgol.
Graddiodd mewn Cymraeg ac Addysg ac mae'n dysgu yn awr yn Ysgol Gyfun y Strade.
Enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd 1988 a Chadair Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Colwyn yn 1995.
Cafodd ei gadeirio yno gan ei dad, John Gwilym Jones, a oedd yn archdderwydd ar y pryd.
Bu'n Fardd Plant Cymru y llynedd ac mae newydd gwblhau cyfrol o gerddi i blant.
Yn ogystal â derbyn Cadair yr Eisteddfod sy'n rhodd gan Undeb Amaethwyr Cymru yng Nghaernarfon, mae'n derbyn gwobr o £750.
Mae'n briod ag Enid ac mae ganddynt ddwy ferch, Catrin a Siwan.