BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 24 Mehefin, 2005, 06:19 GMT 07:19 UK
'Angen llun Salem yng Nghymru'
Rhan o lun Salem (diolch i Oriel Gelf Lady Lever, Lerpwl)
Daeth y llun yn enwog o ganlyniad i ymgyrch hysbysebu gan gwmni sebon

Dylid dychwelyd un o'r lluniau enwocaf yn ōl i Gymru, meddai llefarydd diwylliant Plaid Cymru.

Mae'r AC Owen John Thomas am i'r llun o aelodau Capel Salem yn ardal Harlech gael ei brynu neu ei fenthyg gan oriel yng Nghymru.

Roedd llun Sydney Curnow Vosper yn symbol o dduwioldeb ac mae copļau ohono ar lawer i aelwyd oherwydd ymgyrch hyrwyddo sebon.

Dywedodd yr oriel yn Lloegr sy'n berchen arno nad oedd unrhyw gynllun i symud y llun.

Mae llun Vosper o Siān Owen mewn gwisg draddodiadol Gymreig a chyd-aelodau Capel Salem, Cwm Nantcol.

Mae'n llun dyfrlliw, yn gywrain, felly nid oes gennym unrhyw gynlluniau i'w symud o'r oriel ar hyn o bryd
Sharon Granville, Amgueddfeydd Cenedlaethol, Lerpwl

Yn Oriel Gelf Lady Lever yn Port Sunlight y mae'n cael ei arddangos, ar Benrhyn Cilgwri.

Talodd Arglwydd Leverhulme, oedd yn berchen ar sebon Sunlight, 100 gini amdano a rhoddodd gopļau ohono yn rhad ac am ddim i bobl a brynodd werth £7 o'i sebon.

Dywedodd Mr Thomas y dylai'r llun gael ei brynu neu ei fenthyg gan amgueddfeydd cenedlaethol Cymru.

"Dyna beth rwyf i'n meddwl fyddai'n briodol, yn enwedig gan fod gwraig yr arlunydd yn dod o Gymru a bod y llun yn bortread pwysig o Gymru yn y cyfnod hwnnw," meddai Mr Thomas.

'Allweddol'

Dywedodd ei fod wedi ysgrifennu at guradur Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn gofyn a oedd modd ei brynu neu ei fenthyg.

Byddai'r llun yn rhan o gasgliad Trysorau'r Genedl, meddai.

Ond dywedodd Sharon Granville o Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl na fyddai'n bosib symud y llun.

"Mae'r llun yn rhan allweddol o hanes Oriel Gelf y Foneddiges Lever ac yn un o'r eitemau mwyaf poblogaidd yn y casgliad," meddai.

"Rydym yn aml yn croesawu nifer fawr o ymwelwyr o Gymru sy'n dod i weld y llun a chasgliad anghyffredin y Foneddiges Lever.

"Mae'n llun dyfrlliw ac yn gywrain. Felly nid oes gennym unrhyw gynlluniau i'w symud o'r oriel ar hyn o bryd."

Nid oes gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru fwriad i alw am ddychwelyd Salem er eu bod yn arddangos gweithiau eraill Curnow Vosper.

"Comisiynwyd y llun gan deulu Lever ac felly mae'n perthyn yn yr oriel y maen nhw wedi ei chgreu," meddai Michael Tooby, cyfarwyddwr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Caerdydd.

"Maen nhw'n benthyg eu gwaith yn hael iawn a byddwn yn edrych ar y posibilrwydd o'i ddangos yma eto yn y dyfodol," meddai.




HEFYD:
I bob llun ei hanes
26 Mai 05 |  Newyddion
Salem: Ffrae llosgydd
19 Ion 05 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^