Mae un garreg wedi ei chwblhau
|
Mae meini newydd Gorsedd y Beirdd wedi eu dadorchuddio ddydd Iau ac ymgyrch wedi dechrau i'w noddi.
Mae'r meini yn cael eu gwneud o wydr-ffibr yn lle cerrig traddodiadol.
Nod yr Eisteddfod Genedlaethol yw symud y meini o Eisteddfod i Eisteddfod ac arbed costau codi Cylch yr Orsedd.
Bydd y meini yn cael eu defnyddio gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri yn 2005.
Gall y cyhoedd brynu neu noddi'r meini a'u rhoi i'r Eisteddfod fel rhodd.
Yn 2003, mewn adolygiad o ddyfodol y Brifwyl, awgrymodd Adroddiad Stevens y byddai meini symudol yn haws i'w trin.
Maen Llog
Mae'n golygu y bydd Seremoni'r Orsedd yn cael ei chynnal ar Faes yr Eisteddfod fel yn achos Eisteddfod Casnewydd 2004.
Selwyn Griffith: 'Fydd pobl ddim yn gallu gweld y gwahaniaeth'
|
Mae Selwyn Griffith, darpar Archdderwydd Cymru, wedi cyfrannu'r Maen Llog a'r pedair ris i'r Orsedd a'r Eisteddfod ac ef fydd yr Archdderwydd cyntaf i'w defnyddio.
Chwe aelod arall o'r Orsedd sy wedi talu am chwe maen arall.
Dywedodd Mr Griffith, sydd wedi talu tua £3,000 am y meini, na fydd pobl ddim yn gallu gweld y gwahaniaeth rhwng y meini symudol a'r rhai traddodiadol.
"Dwi 'di rhoi'r maen llog fel rhodd i'r Eisteddfod gan mai fi fydd yn cael y fraint o sefyll arno fo am y tro cyntaf ym Mharc y Faenol," meddai.
"Er mae wedi costio cryn dipyn i mi, roeddwn i'n teimlo rhyw anrhydedd a braint o gael ei roi o fel rhodd.
"Mae'r Eisteddfod ar dir y Faenol, ychydig filltiroedd o'm cartref ac fe fyddaf fi yno fel Archdderwydd am y tro cyntaf ac yno fel mab i chwarelwr a oedd yn gweithio yn yr hen ddyddiau i ŵr y Faenol."
Dwsin o feini
Dywedodd iddo weld model o un ac na fyddai byth yn meddwl eu bod wedi cael eu gwneud o ffibr.
"Maen nhw'n edrych fel petaen nhw wedi cael eu gwneud o lechen neu ddarn o graig a dwi ddim yn credu y bydd neb yn gweld fawr o wahaniaeth yn eu hymddangosiad."
Dr Emyr Roberts a'i wraig Christine sy'n creu'r cerrig
|
Gan fod chwe maen arall angen eu creu i greu'r cylch cyfan, mae Pensaer yr Orsedd, Ifan Eryri, (Ifan Lloyd Williams) yn galw ar y Cymry i roi "maen yn rhodd".
"Mae 'na ddwsin o feini ac rydan ni wedi cael chwech, sef y ddau Faen Porth, y Maen Cyfamod a thair carreg arall.
"Dwi 'di prynu'r ddau Faen Porth ac mae Dilwyn Cemaes, a fu'n aelod am 74 mlynedd ac yn Arwyddfardd ac yn Geidwad y Cledd, wedi rhoi'r Maen Cyfamod ac mae tri aelod arall wedi rhoi'r meini eraill.
"Maen nhw'n costio £450 yr un ac fe fydd pob maen yn mynd i bara am o leiaf 50 mlynedd."
Roedd yn fodlon â'r garreg gyntaf oedd i'w gweld ddydd Iau.
"Dwi'n hapus ofnadwy ac wedi gwirioni gyda hi. Doeddwn i ddim wedi disgwyl y byddai'n edrych cystal â hyn," meddai.
'Sialens'
Dr Emyr Roberts a'i wraig Christine sy'n gwneud y gwaith yn eu gweithdy ym Methesda ac fe fydd y gwaith wedi ei gwblhau erbyn Gŵyl Cyhoeddi'r Eisteddfod.
"Mae'n dipyn o sialens ac yn parhau i fod gan mai dim ond cychwyn y gwaith ydi hyn," meddai Mrs Roberts.
"Nid y cerrig eu hunain yw'r gamp ond maint y gwaith, mae cymiant ohonyn nhw i'w gwneud ac fe fydd yn ein cadw'n brysur drwy'r flwyddyn. Ond dwi'n hyderus y byddwn ni'n eu gorffen mewn pryd."
Mae Jâms Nicholas, Cofiadur yr Orsedd, hefyd wedi ei blesio â'r garreg gyntaf ac yn credu y bydd y cerrig newydd yn llawer mwy hwylus.
"Bydd yn arbed amser a bydd symud amseroedd y seremoniau a'u cynnal ar y maes yn llawer mwy cyfleus i'r tyrfaoedd," meddai.
"Yn y gorffennol roedden ni'n treulio rhan helaeth o'r dydd yn y bysiau ac yn colli
pethau pwysig oedd yn digwydd ar y maes. Nawr gallwn fod yn y ddau le."