BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 14 Rhagfyr, 2004, 07:07 GMT
Lerpwl yn gwahodd Steddfod
Adeilad y Liver yn Lerpwl
A fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn Lerpwl yn 2007?

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi derbyn cais swyddogol oddi wrth Gyngor Dinas Lerpwl i gynnal yr Eisteddfod yn 2007.

Dywedodd yr Eisteddfod nad oedd penderfyniad wedi ei wneud eto a'u bod yn dal i drafod Chyngor Sir y Fflint sydd hefyd wedi gwahodd yr Ŵyl.

Pe bai'r Eisteddfod yn cael ei chynnal yn Lerpwl, byddai'n digwydd flwyddyn cyn iddi fod yn Ddinas Diwylliant Ewrop yn 2008.

Ond mae Dr Robyn Lewis, Archdderwydd Cymru, yn dweud fod y cais yn ei synnu.

Nid hwn yw'r tro cyntaf i'r Eisteddfod gael ei chynnal yr ochr draw i Glawdd Offa a dywedodd Cyfarwyddwr yr Eisteddfod nad oedd yn gwybod am unrhyw reol i atal hynny.

Ganrif neu dri chwarter canrif a mwy yn l, ie, ond faswn i gant y cant yn erbyn mynd i Lerpwl.
Dr Robyn Lewis, Archdderwydd Cymru

"Rydym wedi derbyn cais gan Gyngor Dinas Lerpwl i fynd yno yn 2007," meddai Elfed Roberts.

"Mae'r cais ar y bwrdd ac felly cychwyn y broses ydy hyn."

Roedd llawer iawn o waith i'w wneud, meddai, "nid yn unig trafod efo'r ddinas ond trafod efo Cyngor Sir y Fflint ac unrhyw gyngor arall sydd diddordeb yn Eisteddfod 2007".

Mae'r Eisteddfod wedi ei chynnal deirgwaith yn Lerpwl a dwywaith ym Mhenbedw ac ymwelodd Lloegr a Lerpwl y tro diwethaf yn 1929.

Ers diwedd y nawdegau mae'r Eisteddfod wedi bod yn trafod Chyngor Sir y Fflint.

"Roedd cyfeillion ardal Treffynnon yn awyddus iawn i'r Eisteddfod fynd yno ond, yn anffodus, methon ni chanfod maes addas ac, erbyn hyn, rydym wedi gweld lle rhwng Yr Wyddgrug a Wrecsam," meddai Mr Roberts.

YMWELIADAU'R EISTEDDFOD LLOEGR
1866 - Caer
1879 - Penbedw
1884 - Lerpwl
1887 - Llundain
1900 - Lerpwl
1909 - Llundain
1917 - Penbedw
1929 - Lerpwl

"Rydym yn gobeithio cael cyfarfod 'r cyngor yn gynnar yn y flwyddyn newydd i drafod hyn ond cawn weld.

"Mae cais Cyngor Dinas Lerpwl wedi ei roi ac mae trafodaethau gyda Sir y Fflint yn mynd ymlaen hefyd.

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n ddigon teg ein bod ni'n ystyried y ddau gais ac yn siarad efo'r ddau gyngor ac y byddwn ni'n gwneud hyn yn ystod Ionawr a Chwefror."

Dywedodd y cyfarwyddwr nad oedd yn gwybod am reol oedd yn atal cynnal yr Eisteddfod yn Lloegr.

Elfed Roberts
Elfed Roberts: 'Yn dal i drafod'

"Dwi'n siwr y bydd y syniad yn cael cefnogaeth gan rai pobl a gwrthwynebiad gan bobl eraill fel y rhan fwyaf o bethau eraill yng Nghymru," meddai.

Roedd llawer o gwestiynau i'w hateb, meddai, ac roedd wedi cael cyfarfod efo prif weithredwr y cyngor oedd yn mynegi diddordeb ac awydd.

Ond penderfyniad Cyngor yr Eisteddfod fydd hwn yn y pen draw.

'Yn erbyn'

Dywedodd Dr Robyn Lewis, Archdderwydd Cymru, fod y cais yn ei synnu.

"Ganrif neu dri chwarter canrif a mwy yn l, ie, ond faswn i gant y cant yn erbyn mynd i Lerpwl.

"Petai'r Eisteddfod yn mynd i Lerpwl, mae'n debyg na faswn i ddim yn mynd iddi oherwydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru ydy hi.

"Roedd llawer o Gymry yn byw y tu allan i Gymru yn y blynyddoedd a fu ond mae wedi gwanhau erbyn hyn ym mhob man a dwi'n erbyn mynd hi dros y ffin i unrhyw le arall.

Dywedodd ei fod yn credu fod Lerpwl yn gobeithio elwa o'r ffaith ei bod hi'n flwyddyn ddiwylliant yn 1998 ac yn disgwyl i ddalgylch eang o bobl gogledd Cymru godi arian ar Eisteddfod Lerpwl.

"Dwi'n erbyn hyn a charwn weld yr Eisteddfod yn aros yng Nghymru."

Mae'r cais (un Lerpwl) ar y bwrdd ac felly cychwyn y broses ydy hyn
Elfed Roberts, Cyfarwyddwr Eisteddfod

Mae'r Eisteddfod yn derbyn nawdd oddi wrth Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

"Mae dewis lleoliadau'r Ŵyl yn benderfyniad i'r Eisteddfod Genedlaethol," meddai Meri Huws, Cadeirydd y Bwrdd.

"Ac mae'r bwrdd yn croesawu unrhyw gyfleon i ymestyn ymwybyddiaeth a defnydd o'r iaith Gymraeg yng Nghymru a thu hwnt.

"Yn hanesyddol, mae gan Lerpwl berthynas nodedig gyda'r Eisteddfod Genedlaethol a'r iaith Gymraeg.

"Byddai cynnal yr Eisteddfod yn Lerpwl ar drothwy ei chyfnod fel dinas diwylliant yn sicr yn fodd i godi proffil yr Ŵyl a'r iaith.

"Mae'r Bwrdd yn cefnogi ac yn arddel rheol iaith Gymraeg yr Eisteddfod ac nid yw am weld unrhyw newid yn y rheol."

Beth yw eich barn chi? A ddylai'r Eisteddfod dderbyn gwahoddiad dinas Lerpwl?

Anfonwch eich sylwadau atom drwy lenwi'r ffurflen ar y dde.

EICH SYLWADAU:

O fyw yn Lerpwl am dipyn rwy'n gwybod am gryfder treftadaeth Cymreig y ddinas a dwi' ddim yn gweld rhwystr penodol i gynnal Eisteddfod Llynlleifiaid 2007. Ond mae rhaid gofyn a fydd Cyngor y Ddinas a'r gymuned Gymraeg leol yn gallu rhoi'r un gefnogaeth a fyddai cyngor a chymuned yng Nghymru. Hefyd, pam hybu economi Lerpwl gydag arian Cymreig os mae mwy o angen gan gymuned yng Nghymru?
Huw B, Parc Tyffnel, Llundain

Gan fod safle addas bellach i'w gael yn Sir y Fflint, i be mae angen ystyried lleoliad arall, heb sn am Lerpwl? Gan fod bygythiadau i Gymreictod yr Ŵyl yn peri pryder eisoes, onid canwaith gwaeth fyddai'r pryder hwnnw pe cynhelid yr Eisteddfod dros y ffin?
Gareth Wood, Trelewis, Merthyr Tudful

Mae'n hanfodol ein bod yn diogelu ein iaith a'n diwylliant. Yn yr un modd, i wneud hynny, mae'n bwysig i'w hyrwyddo a rhannu gyda gwledydd eraill mewn ffordd hyderus. Pa lwyfan gwell i wneud hynny nag ar ein stepan drws yn y ddinas fydd yn Ddinas Diwylliant Ewrop 2008. O'i wneud yn iawn fyddai hwn yn gyfle gwych i ddangos Cymru ar ei orau.
Gwilym Euros Roberts, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd

Mewn dau air- COFIWCH DRYWERYN! Mae saeson wedi creu llanast o Gymru dros y blynyddoedd, ac mae'r Eisteddfod yn unigryw i Gymru. Mae gennym lefydd hen ddigon da yng Nghymru. Pam mynd i wlad y gelyn?
Lisa Dafydd, Llandyrnog, Dinbych.

Yn erbyn mynd 'r 'Steddfod i Lerpwl! Does dim digon o Gymru ar l yno. Dau gapel Cymraeg yno a'r rhain yn wan o ran nifer yr aelodau. Dwi ddim yn credu fod pobol Lerpwl yn barod i dalu am gael Steddfod. Dwi wedi byw a gweithio yno yn y '60 a '70 a dyna pryd roedd y Cymru yn weithgar yno a digon o bobl ifanc yno. Mae rhai o'r bobol a arhosodd ar l yno wedi magu eu plant yn Saeson, gwarth nhw yn gofyn am gael y Steddfod yno!
Lis Jones, Fflint

Lerpwl!!!!!! Cofio Tryweryn.
Gerallt Jones, Bangor, Gwynedd

Dylai pwyslais yr Eisteddfod for ar hybu ein diwylliant yng Nghymru. Gyda llai na 20% o'r boblogaeth yn siarad yr iaith, a hyn yn gryn dipyn llai yn Sir y Fflint, mae'r angen i barhau i wthio ein diwylliant o fewn ein ffiniau mor gryf ag erioed. Sir y Fflint fuasai'r ardal fwyaf amlwg i gynnal yr eisteddfod i mi oherwydd y gogledd yw'r ardal lle mae gwir angen i wthio ein traddodiadau.
Dylan Jones, Finsbury Park, Llundain




HEFYD:
Poeni am leoliad Prifwyl
15 Medi 04 |  Newyddion
Prifwyl: Newid trefn reoli
28 Tach 04 |  Newyddion
160,000 i'r Brifwyl
29 Hyd 04 |  Newyddion
Prifwyl: 'Dim lleihau rl yr iaith'
13 Hyd 04 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^