BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 11 Rhagfyr, 2004, 15:33 GMT
Difrod 500,000 i gamlas
Badau ar y gamlas
Bydd rhan o gamlas Llangollen ar gau tan y Pasg
Mae dymchwel glannau Camlas Llangollen yn golygu y gallai fod ar gau i deithwyr cychod.

Bydd angen gwario cymaint 500,000 i atgyweirio'r glannau a gallai'r gamlas fod ar gau tan y Pasg y flwyddyn nesaf.

Syrthiodd y rhan, sy'n 40 medr o hyd, ger Hampton Bank, Bettisfield, ar y ffin rhwng Cymru a gogledd Swydd Amwythig.

Sylwodd rhywun yn teithio ar gwch fod y dŵr yn llifo i'r cyfeiriad anghywir a rhybuddiodd yr awdurdodau.

Roedd y dŵr yn llifo i gaeau gerllaw, ac mae'r difrod i'r gamlas erbyn hyn gymaint maint tŷ.

O ganlyniad, mae lefel dŵr y gamlas wedi gostwng troedfedd a bu'n rhaid cau y rhan hon i deithwyr.

Dywedodd David Baldiccino, llefarydd Lonydd Ddŵr Prydain, na fyddai'r gamlas yn debygol o agor yn llwyr cyn y Pasg.

Bydd argae dros-dro yn cael ei godi nes y bydd yr atgyweirio'n dod i ben.

Mae Camlas Llangollen bron yn ddwy ganrif oed ac yn rhan o gamlas Undeb Swydd Amwythig sy'n rhedeg o Nantwich i Langollen - taith o 47 milltir.




HEFYD:
Cyfleusterau newydd ar gamlas
25 Awst 04 |  Newyddion
Camlesi: Anelu at rwydwaith
09 Rhag 03 |  Newyddion
Ailagor pont ddŵr hyna'r byd
13 Maw 04 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^