BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 10 Rhagfyr, 2004, 06:57 GMT
Cofio dechrau'r ymgyrch losgi
Tŷ a losgwyd yn Llanberis
Yr ymgyrch: Tŷ a losgwyd yn Llanberis

Union 25 mlynedd yn l i'r penwythnos hwn dechreuodd un o ymgyrchoedd mwyaf enwog a dadleuol y Gymru fodern.

Ar Ragfyr 12 1979 cafodd diffoddwyr tn eu galw wedi tanau mewn pedwar tŷ haf anghysbell yng Ngwynedd a Dyfed.

Erbyn diwedd y mis roedd cyfanswm o wyth tŷ haf wedi eu llosgi.

Hwn oedd dechrau'r ymgyrch losgi, yr ymgyrch ddaeth 'r mudiad Meibion Glyndŵr a'u llythyrwr dirgel, Rhys Gethin, i sylw'r heddlu, y cyfryngau a'r cyhoedd.

Bum mlynedd ar hugain yn l fe losgodd Tyddyn Gwr ger pentref Nefyn, tŷ oedd yn eiddo i deulu o ganolbarth Lloegr.

Nid hwn oedd yr unig dŷ haf i gael ei losgi'r noson honno a hwn oedd cychwyn ymgyrch losgi barodd am dros 12 mlynedd rhwng 1979 a 1991.

Nod yr ymgyrch oedd codi ymwybyddiaeth am y broblem mewnfudo, yn enwedig pobl o Loegr yn prynu tai yng nghefn gwlad.

Cafodd dros 200 o dai, swyddfeydd gwerthu tai, ceir a chychod eu targedu yng Nghymru a swyddfeydd gwerthwyr tai ac adeiladau yn Lloegr.

Llythyrau

"Ar l yr ymosodiadau cyntaf mi ddechreuodd Cadwyr Cymru ymosod ond dim ond rhyw bump y gwnaethon nhw ymosod arnyn nhw," meddai Alwyn Gruffydd, newyddiadurwr gyda'r BBC yn ystod yr ymgyrch.

"Wedyn mi ddaeth Meibion Glyndŵr i'r fei yn swyddogol ac wedyn y llythyr gan Rhys Gethin," meddai Mr Gruffydd sydd newydd gyhoeddi llyfr am hanes yr ymgyrch, Mae Rhywun yn Gwybod.

"Ond efallai mai pobl gwbl wahanol oedd yn postio'r llythyrau i'r bobl oedd yn gosod y tai ar dn.

Tŷ a losgwyd yn Nefyn
Llosgwyd y tŷ yma yn Nefyn yn 1979
"Fel rhywun oedd yn gweithio ym myd newyddion yn y rhan yna o'r byd am y rhan fwyaf o'r ymgyrch losgi, hyd yn oed heddiw does gen i ddim awgrym o gwbl pwy fyddai'n gallu rhoi tŷ haf ar dn."

Aflwyddiannus oedd ymchwiliadau'r heddlu a'r amharodrwydd i gydweithredu nhw a gafodd y bai am hynny.

Er gwaethaf ymdrechion yr heddlu, dim ond un dyn gafodd ei garcharu mewn cysylltiad 'r ymgyrch losgi.

Cafwyd Sin Aubrey Roberts yn euog o anfon dyfais ffrwydrol drwy'r post ac fe'i carcharwyd am 12 mlynedd.

Roedd yn 21 oed ar y pryd a fo ydy'r unig un i gyfaddef ei fod yn aelod o Feibion Glyndŵr.

Does neb wedi cael ei garcharu am losgi unrhyw adeilad.

Yn Mawrth eleni datgelodd rhaglen materion cyfoes BBC Cymru Taro Naw fod ditectifs yn gobeithio y byddai'r dechnoleg ddiweddara'n golygu y gallen nhw ddal pwy bynnag fu'n gyfrifol am y tanau.

Awgrym Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu'r Gogledd, Clive Woolfendale, ar y rhaglen oedd y gallai'r dechnoleg ddiweddara, fel DNA, arwain at ddal mwy o bobl.




GWYLIWCH A GWRANDEWCH
'Rhywun yn rhywle yn gwybod....'
Adroddiad John Stevenson, BBC Cymru




Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^