Bydd 19 o ysgolion cynradd newydd yn cael eu creu
|
Mae 200 o bobl wedi protestio ddydd Mercher am fod cynghorwyr Sir Gaerfyrddin yn trafod cynlluniau addysg gwerth £110m allai arwain at gau ysgolion.
Datgelodd y cyngor fanylion eu cynllun 10-mlynedd i ad-drefnu addysg yn Hydref.
Mae'r protestwyr wedi dweud fod bygythiad i gymunedau Cymraeg ac nad oes angen cau ysgolion.
Ond dywedodd y cyngor y bydd ymgynghori llawn mewn ardaloedd lle bydd newidiadau mawr.
Cymdeithas yr Iaith drefnodd y brotest ac ar un adeg roedd rhai'n rhwystro mynediad i safle'r cyngor sir.
Tra bydd un ysgol uwchradd a 19 o ysgolion cynradd yn cael eu creu, gallai tua 30 o ysgolion cynradd llai eu maint gau.
 |
Dwi'n credu fod yr ysgolion bach i gyd yn rhoi addysg dda i'r plant beth bynnag yw eu maint
|
Un o'r ysgolion allai gau yw Ysgol Rhydcymerau, ysgol wledig â dim ond 23 o blant rhwng Llambed a Llandeilo.
Effaith ar y gymuned
"Beth fyddai'n fy mhoeni i, a dwi'n credu y rhan fwyaf o rieni'r ysgol, yw bod y plant yn gorfod teithio lawer yn bellach i'r ysgol," meddai Nia Evans.
"Yn ein pentref ni dim ond yr ysgol a'r swyddfa bost sydd gyda ni i gadw'r gymuned gyda'i gilydd.
"Byddai cau'r ysgol yn difetha ysbryd y gymuned.
"Dwi'n credu fod yr ysgolion bach i gyd yn rhoi addysg dda i'r plant beth bynnag yw eu maint ac mae'n bosib y byddai'r plant yn dioddef mwy pe baen nhw'n creu ysgolion mwy."
Ond yn Llwynhendy, ger Llanelli, mae moderneiddio'n golygu uno Ysgol yr Ynys a'r ysgol gynradd leol mewn adeilad newydd.
Dywedodd y brifathrawes, Beth Leyshon, fod y cynllun yn ateb gofynion y gymuned.
"Mae dau adeilad ar hyn o bryd ac maen nhw'n hen.
"A dweud y gwir, mae eisie adeiladau newydd ar y plant, mae eisie adnoddau newydd ac mae llai o blant yn yr ardal.
"Felly roedd lleoedd ychwanegol gyda ni a bydd ysgol newydd yn cael ei hadeiladu yn bwrpasol i nifer y plant fydd gyda ni yn yr ardal."
Ad-drefnu
O dan y cynllun moderneiddio bydd ad-drefnu yn ardal Llandeilo - dwy ysgol newydd ar gyfer ardal tre Llandeilo yn lle ysgolion Ffairfach, Teilo Sant, Llandeilo, Cwmifor a Trap.
A bydd ysgolion newydd yn ardaloedd Caio, Talyllychau, Rhydcymerau, Llansawel a Brechfa; Gwynfryn, Ponthenri, Pontiets a Charwe yng Nghwm Gwendraeth; Llandybie, Blaenau a Nantygroes ger Rhydaman; a Chefneithin, Drefach, Cross Hands, Maesybont a Chwmgwili.
Mae'r cynlluniau'n golygu:
- Ysgol newydd £4m i ddisgyblion yn Copperworks a Lakefield, Llanelli
- Ysgol £3.25m yn lle Ysgol Gynradd y Bryn, Llanelli
- Ysgol £4m yn lle Ysgol Gymraeg Dewi Sant, Llanelli
- Ysgolion £1.5m ar gyfer Brynsierfel a Phen-y-groes ac ysgol £1.25m i Bembre
- Ysgol £2m i Drimsaran
- Ysgol £2m ym Mheniel, Caerfyrddin.
Roedd rhai o gynlluniau'r sir yn hysbys ac mae ysgolion uwchradd Saesneg Cambria a Maridunum yng Nghaerfyrddin wedi dechrau ar y broses o uno.