Mae dyfodol Wrecsam yn parhau yn ansicr
|
Mae Alex Hamilton, perchennog Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi dweud bod prynwr posib ar gael i gymryd yr awennau yno.
Cafodd y clwb ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr wedi gorchymyn yn yr Uchel Lys ddydd Gwener.
Roedd y penderfyniad yn yr Uchel Lys ym Manceinion a dywedodd cyfarwyddwyr y gallai achub y clwb.
Mae hyn yn golygu y bydd y clwb yn colli 10 pwynt yn y gynghrair gyntaf ac felly'n olaf ond un yn y tabl.
Dywedodd cyfreithwyr y clwb y bydden nhw'n apelio yn erbyn penderfyniad y Gynghrair Bêl-Droed i'w cosbi.
Hwn yw'r tro cyntaf i glwb cynghrair gael ei gosbi wedi i reolau ddod i rym ddechrau'r tymor.
'Gweledigaeth'
Collodd y clwb golli 2 - 0 yn erbyn Scunthorpe ar gyfer gêm Ail Rownd Cwpan yr FA nos Wener yn Glanford Park.
Daeth y newydd am y prynwr posib yn ystod y gwrandawiad yn yr Uchel Lys ond nid oedd y cyfarwyddwyr am drafod unrhyw gynigion.
Dywedodd Simon Johnson, Ysgrifennydd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam, ei fod yn croesawu prynwr posib i'r clwb.
"Os mai dyma'r achos rydym yn barod iawn i gwrdd â'r prynwr posib a siarad gydag e.
"Mae gyda ni gymaint i gynnig a'r weledigaeth ar sut i symud pethau ymlaen gyda'r clwb," meddai.
Problemau
Croesawodd Mr Johnson benderfyniad y clwb i apelio'n erbyn y ffaith ei fod yn colli 10 pwynt yn y gynghrair gyntaf gan ei adael yn y safle ola' ond un.
"Cafodd y reol ei gosod ar gyfer amgylchiadau gwahanol.
"Cafodd ei chynlluio i atal clybiau rhag dibynnu ar y ffaith eu bod yn cyrraedd y gynghrair gyntaf ac yna'n medru cael gwared ar eu dyledion i gyd," meddai.
"Os oes achos gyda ni, yna mae'n werth bwrw ymlaen â phethau. Nid yw'n fater os ydyn yn symud i fyny neu i lawr yn unig."
Mae gan y clwb broblemau ariannol ac mae mewn dyled o £900,000 i Gyllid y Wlad.
Fis diwethaf roedd disgwyl i Gyllid y Wlad ofyn i'r Uchel Lys i ddod â'r clwb i ben.
Ond drwy ddeiseb mynd-i-ddwylo-gweinyddwyr fe lwyddodd y clwb i osgoi hynny.
Mae'r wythnosau diwethaf wedi bod yn rhai anodd i gyfarwyddwyr y clwb sydd wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda buddsoddwyr.
Mae perchennog y clwb, Alex Hamilton, wedi gwrthod sawl cynnig i brynu'r clwb.
Cafodd dau gynnig, un gan Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam, a'r llall gan gyn-gadeirydd y clwb, Mark Guterman, eu gwrthod gan Alex Hamilton sy'n berchen ar y rhan fwyaf o gyfranddaliadau'r clwb.