Mae modd dilyn cyfarwyddiadau Cymraeg ar y cyfrifiadur
|
Mae cwmniau yng Nghymru wedi croesawu'r meddalwedd cyfrifiadurol gafodd ei lansio ddydd Mercher a hwnnw yn y Gymraeg.
Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Microsoft UK sy wedi bod yn cydweithio ers peth amser i gynhyrchu fersiwn Cymraeg o Windows XP ac Office 2003.
Mae hwn yn ddatblygiad allweddol er mwyn ehangu'r defnydd o'r iaith yn y byd technegol.
Ac mae'r Gymraeg yn ymuno â Hindi, Gwyddeleg a Maori ymhlith y meddalwedd cyfrifiadurol sydd ar gael.
Dywedodd Jonathan Lewis, cyfarwyddwr Gwasg Gomer yn Llandysul, ei fod yn edrych mlaen at ddefnyddio'r meddalwedd.
'Hwyluso'r gwaith'
"Fe fydd hyn yn hwyluso'r gwaith i'n staff yma yn sylweddol, a 'rwy'n falch iawn ei fod yma wedi inni aros yn hir," meddai.
Mae Garmon Gruffudd, Rheolwr Gwasg y Lolfa yn Nhalybont, yn falch y bydd modd i'w gwmni weithio'n rhwyddach drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Rydym yn bwriadu edrych i mewn i'r peth cyn gynted â phosib," meddai.
"Dwi'n awyddus iawn i'w ddefnyddio."
Mae'r meddalwedd ar gael yn rhad ac am ddim i unrhyw un sydd am ddefnyddio'r cyfrifiadur drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Heb os, mae hwn yn ddatblygiad allweddol i'r Gymraeg ac yn cadarnhau fod yr iaith yn gyfoes, perthnasol a defnyddiol," meddai Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
"Mae cael rhaglenni cyfrifiadurol cyfarwydd fel Word ac Outlook yn golygu y bydd yna fwy o gyfleoedd i bobl o bob oed i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd, boed hynny yn y gwaith neu yn y cartref."
Ers peth amser mae 'na rai sydd wedi bod yn treialu'r meddalwedd.
'Ystyr yn gliriach'
Un o'r rhain ydy Elliw Williams o ardal Caernarfon, sydd â'i chwmni cysylltiadau cyhoeddus ei hun.
"Roeddwn i wedi arfer efo'r termau yn Saesneg ac yn poeni sut oeddwn i'n mynd i ymdopi eu gweld yn Gymraeg.
"Ond, mewn gwirionedd, doeddwn i ddim yn deall y geiriau yn Saesneg beth bynnag ac felly waeth i mi fod yn ddi-glem yn fy iaith fy hun.
"Mae 'na ambell i le lle mae ystyr yn dod trwodd yn gliriach yn Gymraeg."
Cwmni Cymen a Chanolfan Bedwyr, Prifysgol Cymru, Bangor, gyfieithodd yr holl dermau technegol yr ydym wedi dod mor gyfarwydd â'u defnyddio.
Manon Wyn Davies sydd wedi bod yn rheoli'r cynllun dros y misoedd diwethaf.
Mae Microsoft wedi bod yn cyd-weithio â Bwrdd yr Iaith Gymraeg i greu'r gwaith
|
"Rydan ni wedi trio meddwl be' ydy ystyr a phwrpas pob botwm a dewislen," meddai.
"Gan ein bod ni yn defnyddio'r meddalwedd yma roedden ni'n eitha cyfarwydd ac roedd hi'n ddifyr meddwl be' oedd diben pob botwm a thrio meddwl am gyfieithiad priodol.
"Y bwrdd gwaith bellach ydy'r 'desktop' ac mae 'na bob math o ddewis i gael papur wal arbennig personol ar gyfer y bwrdd gwaith."
Cwmni Technoleg Draig sydd wedi bod yn gwneud y gwaith technolegol.
O hyn ymlaen, felly, fydd hi ddim yn cymryd hanner munud i roi to bach ar lythyren a fydd 'na ddim llinellau coch yn ymddangos wrth deipio gwahanol ddogfennau.
Mae modd derbyn y meddalwedd newydd drwy gyfrwng crynoddisg neu drwy wefan Bwrdd yr Iaith.