BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 30 Tachwedd, 2004, 15:20 GMT
Dileu tri chwango arall
Rhodri Morgan Prif Weinidog Cymru
Rhodri Morgan: Dileu tri chwango arall

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi y bydd tri chwango arall yn cael eu dileu a bod tri arall yn colli nifer o ddylestswyddau.

Y Bwrdd Iaith, Awdurdod Cymwysterau Cwricwlwm ac Asesu Cymru (ACCAC) a Phroffesiynau Iechyd Cymru, sy'n goruchwylio staff y Gwasanaeth Iechyd, fydd yn cael eu dileu.

Yn colli cyfrifoldebau y mae Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Chwaraeon Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.

Ni fydd Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn gyfrifol am weithredu cynlluniau Tir Gofal.

Bydd tua 240 o staff yn dod o dan reolaeth y Cynulliad Cenedlaethol.

Cwangos - Ffeithiau a ffigyrau
Cwango ydy Quasi Autonomous Non Governmental Organisation
Mudiadau a chyrff heb eu hethol sy'n goruchwylio meysydd fel y celfyddydau, chwaraeon a'r amgylchedd
Mae gan Gymru gwango i fonitro, gweithredu a thrafod polisļau ar yr iaith Gymraeg, sef Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Mae'r cwangos yn gwario dros hanner biliwn o bunnau ar gyflogi dros 2,000 o bobl
Y tri chwango mwya yng Nghymru ydi'r Awdurdod Datblygu, ELWa a Bwrdd Croeso Cymru
Mae gan yr Awdurdod Datblygu dros 900 o staff, ELWa bron i 500 a'r Bwrdd Croeso dros 100

Yng Ngorffennaf cyhoeddodd Mr Morgan y byddai'r tri chwango mwyaf, yr Awdurdod Datblygu, ELWa a Bwrdd Croeso Cymru yn dod i ben ac yn dod o dan reolaeth y Cynulliad Cenedlaethol.

Dywedodd ddydd Mawrth ei fod yn gorffen y gwaith a ddechreuodd fis Gorffennaf.

"Roedd dileu'r Tri Mawr yng Nghorffennaf yn gam mawr ac mae'r cyhoeddiad heddi yn arwyddocaol, yn golygu gostyngiad mawr yn nifer y cwangos," meddai.

Credir bydd y newidiadau yn dod i rym erbyn 2007.

'Embaras'

Does dim cynigion am newid strwythur y Llyfrgell Genedlaethol na'r Amgueddfa Genedlaethol ond mae'n debyg y bydd eu perthynas ā'r cynulliad yn cael eu "cryfhau".

Mae Ceidwadwyr Cymru wedi honni fod cyhoeddiad ddydd Mawrth yn "embaras".

"Addawodd Rhodri Morgan goelcerth y cwangos," meddai'r AC Alun Cairns.

"Ond mae pump wedi eu tynnu o'r fflamau am nad oedd wedi gwneud ei waith cartre."

'Penawdau'

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn y cynulliad, Ieuan Wyn Jones nad oedd Llywodraeth y Cynulliad "wedi ystyried y broses yn ofalus".

"Mae Rhodri Morgan yn poeni'n fwy am benawdau yn y papurau nac am les Cymru," meddai.

Dywedodd cyn-Weinidog yr Iaith Gymraeg, Jenny Randerson o'r Democratiaid Rhyddfrydol, fod Mr Morgan wrth ddileu Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi troi'r Gymraeg yn "fater gwleidyddol".

Beth yw eich barn chi am ddileu Bwrdd yr Iaith fel cwango?

EICH SYLWADAU


Dylid edrych ar benderfyniad y llywodraeth i ddiddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg fel cyfle newydd. Yn ei le rhaid sefydlu Cyngor Iaith fydd yn fwy cynrychioliadol na'r Bwrdd gan sicrhau hefyd Ombwdsman Iaith, Corff Cynllunio Ieithyddol a Chanolfan Canoli Termau. Bydd yn rhaid edrych eto ar Ddeddf yr Iaith Gymraeg gan i honno gael ei diberfeddu gan y penderfyniad hwn. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg eisoes wedi trefnu Fforwm Genedlaethol yn Aberystwyth ar Fawrth 12fed i drafod y materion hyn.
Dafydd Morgan Lewis, Aberystwyth, Ceredigion

Newyddion drwg. Roedd Bwrdd yr Iaith yn ymroddgar ac annibynnol, er yn wan oherwydd diffygion amlwg y ddeddf iaith. Mi fydd gosod y dyletswyddau yn nwylo gwleidyddion y blaid Lafur wrth-Gymraeg yn drychineb. Darllenwch farn Huw Lewis, aelod Llafur Merthyr, dros nifer o flynyddoedd er mwyn cael cip ar y dyfodol. Gwae ni!
Huw Roberts, Creigiau, Caerdydd (Treuddyn, Sir y Fflint yn wreiddiol).

... meddyliau cymysg yn wir. Mi fyddai dipyn haws targedu y Llywodraeth mewn protest wedi iddynt ddod i lwyr reoli tynged ein iaith!
Sion Rhys, Aberystwyth

Mae'n drychineb i'r iaith Gymraeg oherwydd bydd arbenigedd rhai o'r bobl da oedd yn gweithio i'r Bwrdd yn cael ei golli yn y trosglwyddo i'r Llywodraeth. Trueni hefyd colli'r hyn a allai fod wedi bod yn bwerdy ac yn ganolbwynt i bolisi dros y Gymraeg.Ond bydd yn gwneud gwaith mudiadau protest fel Cymuned a Chymdeithas yr Iaith yn haws oherwydd gallan nhw yn awr dargedu gwleidyddion unigol fel Alun Pugh, y Gweinidog Diwylliant, yn hytrach na bod Bwrdd yr Iaith yn gweithio fel 'buffer' rhyngddyn nhw a'r Llywodraeth.
Simon Brooks, Tal-y-bont, Ceredigion

Roedd Bwrdd yr Iaith yn wan iawn ar adegau. Ond o leiaf roedd pwrpas gan y Bwrdd i ehangu'r iaith Gymraeg. Beth fydd yn cymryd lle'r Bwrdd? Pwyllgor etholedig sy'n delio a 'phroblemau iaith'? A all Rhodri Morgan gadarnhau y bydd y Cynulliad yn cymryd camau dros amser i droi'r Gymraeg yn iaith sylfaenol Cymru? Neu a fydd o ddim ond yn cadw Dosbarth Canol Cymraeg Caerdydd yn hapus am y degawdau nesaf tan bydd yr iaith yn marw yn dawel?
Huw B, Llundain

Enw
Eich cyfeiriad e bost
Tref a Sir
Eich sylwadau

Ymwadiad: Gall y BBC olygu eich sylwadau ac ni fedrwn warantu y bydd pob neges e-bost yn cael ei chyhoeddi.
Efallai y bydd eich sylwadau'n cael eu cyhoeddi gan y BBC drwy'r byd.





COELCERTH Y CWANGOS

NEWYDDION DIWEDDARA

O'R ARCHIF
SAFLEOEDD GWE
 



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^