BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 27 Tachwedd, 2004, 13:08 GMT
Tynnu cynnig i brynu clwb yn ôl
Alex Hamilton a Mark Guterman
Cafodd Alex Hamilton (chwith) gynnig gan Mark Guterman

Mae cyn gadeirydd clwb pêl-droed Wrecsam, Mark Guterman, wedi tynnu ei gynnig i brynu'r clwb yn ôl.

Dywedodd Mr Guterman ei fod wedi tynnu'r cynnig yn ôl wedi i Alex Hamilton wrthod ei dderbyn o fewn amser rhesymol.

Mae hyn yn golygu fod y clwb, sydd mewn dyled o £900,000 i Gyllid y Wlad, yn wynebu'r posibilrwydd o fynd i ddwylo'r gweinyddwyr ddydd Gwener.

Yn y cyfamser mae cefnogwyr wedi lansio cynllun i godi arian ar y ffôn drwy ddefnyddio rhif pris uchel.

Bydd galwadau yn costio £1.50 a bydd o leiaf £1.07 o hwn yn mynd i'r apêl.

Dywedodd aelod o Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam, Phil Wynn: "Rydyn ni'n gwahodd pawb yn Wrecsam a'r gogledd sydd eisiau i'r clwb oroesi i wneud y cyfraniad bychan hwn.

"Dim ond galwad ffôn syml ydyw, ond fe all wneud gwahaniaeth mawr.

"Mae rhai miloedd o bobol nad ydyn nhw'n mynd i'r gemau ond sydd am weld y clwb yn goroesi ac rydyn ni'n gwybod fod cefnogaeth fawr yn y gymuned i glwb pêl-droed Wrecsam.

"Hefyd fe fyddwn ni'n gofyn i gefnogwyr pêl-droed ar hyd a lled Prydain i'n helpu ni drwy 'Ffonio dros Wrecsam' yn ystod yr wythnosau nesaf."

Gwrandawiad

Yr wythnos diwethaf honnodd AS Wrecsam, Ian Lucas, fod camau cyfreithiol yn cael eu hystyried yn erbyn Alex Hamilton, sy'n berchen ar y rhan fwyaf o gyfranddaliadau'r clwb.

Cafodd y penderfyniad ei wneud wedi cyfarfod rhwng gwleidyddion lleol a Gweinidog Chwaraeon y Cynulliad, Alun Pugh.

Bydd gwrandawiad cyfreithiol yn cael ei gynnal fis nesaf i geisio rhoi'r clwb yn nwylo'r gweinyddwyr.

Mae perchennog y clwb, Alex Hamilton, wedi gwrthod dau gynnig gan Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam i brynu'r clwb.

Mae consortiwm yn cynnwys dau gyn gadeirydd y clwb, Mark Guterman a Pryce Griffiths, y cyn reolwr Dixie McNeill ac AC Wrecsam, John Marek, yn parhau i aros i glywed a yw eu cynnig wedi ei dderbyn.

Yn gynharach roedd Cyngor Wrecsam wedi dweud ei fod am brynu'r Cae Ras ar Ffordd Yr Wyddgrug yn y dref.

Cyhoeddodd yr awdurdod lleol ei fwriad i wneud cynnig am y stadiwm, sydd werth tua £1.5m, fis diwethaf.




HEFYD:
Clwb: Cyfarfod argyfwng
18 Tach 04 |  Newyddion
Bygythiad yn 'diflannu dros dro'
17 Tach 04 |  Newyddion
Wrecsam yn byw mewn gobaith
17 Tach 04 |  Newyddion
Gweinyddwyr: Camau cyntaf
16 Tach 04 |  Newyddion
Gwrthod cynnig cefnogwyr Wrecsam
12 Tach 04 |  Newyddion



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^