BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 24 Tachwedd, 2004, 13:27 GMT
Newyddion Cymru
Dyma'r newyddion yn gryno o Gymru:


Nyrs: 1000 o ddirwy

Mae nyrs gymunedol o'r gogledd wedi cael dirwy o 1000 a'i gwahardd rhag gyrru am dri mis wedi iddi achosi damwain ffordd ddifrifol.

Bu farw Mrs Audrey Bourne o Brestatyn ar l damwain yn Ffynnongroyw yn Sir y Fflint.

Er bod ymchwiliad llawn, dyw hi ddim yn glir pam y llithrodd car Gillian Rush ar draws y ffordd cyn taro dau gerbyd arall.


Lynette: Holi dyn

Yn Abertawe mae'r heddlu'n holi dyn 49-oed mewn cysylltiad 'r ymchwiliad gwreiddiol i lofruddiaeth Lynette White.

Mae'n cael ei amau o wyrdroi cwrs cyfiawnder a dweud celwydd ar lw.

Cafodd Lynette ei llofruddio yng Nghaerdydd 16 blynedd yn l.


Rheillffordd: Pwerau

Fel rhan o fesur newydd bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cael pwerau i ddatblygu gwasanaethau rheilffordd lleol.

Mae'r mesur, sy hefyd yn dileu Awdurdod Strategaeth y Rhelffyrdd, yn cael ei glywed am y tro cynta yn y Senedd.





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^