Bydd y gwasanaethau yn cael eu canoli yng Nghaerdydd
|
Bydd gwasanaeth niwrolawfeddygol i blant yn cael ei ganoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd a dim ond gwasanaeth brys yn aros yn Abertawe.
Cadarnhaodd Gweinidog Iechyd y Cynulliad, Jane Hutt, argymhellion y Comisiwn Iechyd ddydd Mercher.
Mae arbenigwyr iechyd wedi honni mai'r cynlluniau hyn oedd y ffordd orau i atal
symud y gwasanaethau i Loegr ond dywedodd AC Plaid Cymru, Dr Dai Lloyd, fod y cyhoeddiad yn "siom fawr".
Dywedodd Ms Hutt mai'r nod oedd gwasanaeth oedd yn "cwrdd â'r anghenion presennol a rhai'r dyfodol...ar gyfer plant a theuluoedd y de."
'Anwybyddu'
Dylai "gweithwyr proffesiynol medrus oedd mor agos at gartref y plentyn â phosib" ddarparu'r gwasanaeth, meddai.
Dywedodd fod y penderfyniad wedi ei wneud "gyda chyfeiriad penodol at therapi tymor hir, gofal a chefnogaeth ar gyfer y plentyn â phroblem niwrolegol."
"Mae'n anwybyddu dymuniadau miloedd ac mae'n anwybyddu penderfyniadau Cyngor Iechyd Cymunedol Abertawe a Chyngor Iechyd Cymunedol Castell-nedd Port Talbot, sydd, wedi'r cwbl, yn lleisio barn y bobol," meddai Dr Lloyd.
Dywedodd Dr Dewi Evans, Ymgynghorydd yn Ysbyty Singleton Abertawe, fod y penderfyniad yn "hoelen yn arch datblygiadau meddygol yn Abertawe ac yng ngorllewin Cymru".
'Buddsoddiad'
"Fy mhrofiad i o'r pum mlynedd diwethaf yw bod gan y cynulliad lygaid am ddatblygu gwasanaethau yng Nghaerdydd yn unig a dwi'n credu bod esgeulustod yn digwydd o ran gwasanaethau i ardaloedd eraill yng Nghymru.
"Mae'r buddsoddiad i gyd fwy neu lai yn mynd i Gaerdydd ac mae angen buddsoddiad arnom ni yn Abertawe a dwi'n sicr fod hyn y wir am ardaloedd eraill yng Nghymru hefyd," meddai
Bydd y gwasanaeth brys yn cael ei leoli yn yr uned niwrolawfeddygol Ysbyty Treforys, Abertawe.