Cafodd Lynette White ei lladd ar ddiwrnod San Ffolant 1988
|
Mae ymchwiliad i sut y deliodd yr heddlu â llofruddiaeth putain yng Nghaerdydd yn 1988 yn cael ei arolygu gan Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu.
Yng Ngorffennaf 2003 cafodd Jeffrey Gafoor ei garcharu am oes ar ôl cyfaddef iddo ladd Lynette White, 20 oed, yn y brifddinas 16 mlynedd yn ôl.
Cafodd tri dyn eu carcharu ar gam wedi ymchwiliad gwreiddiol yn 1990 a'u rhyddhau yn 1992.
Y llynedd dywedodd Heddlu'r De y bydden nhw cynnal ail ymchwiliad i'r achos.
Syr Anthony Burden, Prif Gwnstabl Heddlu'r De ar y pryd, gyhoeddodd y byddai'r ymchwiliad yn "drylwyr a llym".
Ddydd Gwener cadarnhaodd y comisiwn y bydden nhw'n goruchwylio'r ail ymchwiliad.
Wrth gyhoeddi y byddai'n arolygu'r ymchwiliad, dywedodd pennaeth y comisiwn yng Nghymru, Tom Davies, mai'r bwriad oedd "ymdrech deg i chwilio am y gwirionedd".
'Cymhleth iawn'
Roedd tystiolaeth newydd ar gael, meddai.
"Mae hwn yn achos cymhleth iawn ddigwyddodd sawl blwyddyn yn ôl ac mae dros 100 o blismyn wedi delio â'r achos."
Dywedodd y byddai'n sicrhau fod teulu Miss White a'r rhai a garcharwyd ar gam yn cael gwybod am unrhyw ddatblygiadau.
Cafodd y tri a garcharwyd ar gam, Stephen Miller, Yusef Abdullahi a Tony Paris, eu galw'n Tri Caerdydd.
Tystiolaeth DNA arweiniodd yr heddlu at Jeffrey Gafoor
|
Wedi achos apêl diddymwyd eu dedfrydau yn 1992 a chychwynnodd yr heddlu ymchwiliad newydd yn 2000 i ganfod y llofrudd.
Tystiolaeth DNA a'u helpodd i ddal Gafoor.
Erbyn hyn, mae 26 o blismyn yn rhan o dîm yr ail ymchwiliad ac 11 o bobl wedi'u harestio a'u holi ar amheuaeth o ddweud celwydd ar lw ac o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu'r De, Steve Cahill, y byddai'r cam diweddaraf yn arwain at fwy o atebolrwydd ac yn hwb i hyder y cyhoedd.
"Ry'n ni'n benderfynol o orffen yr ymchwiliad ac ry'n ni'n defnyddio yr un adnoddau ag ymchwiliad i lofruddiaeth."
Os oes gan unrhyw un am yr ail ymchwiliad, dylai ffonio Mr Tom Davies ar 029 2064 6192.