Mae dyfodol Wrecsam yn dal yn ansicr
|
Ar yr unfed awr ar ddeg mae gwleidyddion lleol wedi teithio i Gaerdydd i drafod dyfodol Clwb Pêl-droed Wrecsam.
Roedden nhw'n galw ar Alun Pugh, y Gweinidog Chwaraeon, i helpu sicrhau dyfodol safle'r clwb.
Eisoes mae Cyngor Sir Wrecsam wedi dweud ei fod am brynu'r Cae Ras ar Ffordd Yr Wyddgrug yn y dref.
Yn Hydref dywedodd y cyngor y byddai'n ceisio prynu'r stadiwm sy'n werth tua £1.5m.
Arweinydd y cyngor, Neil Rogers, AS Wrecsam, Ian Lucas ac AC De Clwyd, Karen Sinclair, oedd yn cyfarfod â Mr Pugh.
'Ymddiriedolaeth'
"Yr hyn sydd ei angen yw arian," meddai Mr Lucas.
"Dwi eisiau cael ychydig o gymorth i ddiogelu'r cae. Yr hyn fyddwn i'n hoffi ei weld yw ymddiriedolaeth â sail gymunedol yn rhedeg y clwb.
"Mae Cyngor Chwaraeon Cymru a'r Sefydliad Pêl-Droed wedi buddsoddi dros £1m yn y Cae Ras dros y pum mlynedd diwethaf.
"Mae angen i'r cynulliad roi arian i sefydlogi'r sefyllfa yn Wrecsam ar yr amod fod y clwb yn cyflwyno cynllun busnes ar gyfer y dyfodol."
Roedd disgwyl i Gyllid y Wlad ofyn i'r Uchel Lys ddirwyn y clwb i ben ddydd Mercher am fod dyledion o £800,000 mewn treth.
Mwy o amser
Ond cyflwynodd dau gyfarwyddwr y clwb, Dave Bennett a David Griffiths, ddeiseb i'r Uchel Lys am orchymyn gweinyddol i roi mwy o amser iddyn nhw i chwilio am brynwr i'r clwb.
Mae perchennog y clwb, Alex Hamilton, wedi gwrthod dau gynnig gan Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam i brynu'r clwb.
Ac mae consortiwm yn cynnwys dau gyn-gadeirydd Wrecsam, Mark Guterman a Pryce Griffiths, y cyn-reolwr Dixie McNeil ac AC Wrecsam, John Marek, yn dal i aros i glywed a yw eu cynnig wedi ei dderbyn.