BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 17 Tachwedd, 2004, 17:30 GMT
Bygythiad yn 'diflannu dros dro'
Twnel Wrecsam
Mae dyfodol Wrecsam yn dal yn ansicr

Mae deiseb i ddirwyn clwb pêl-droed Wrecsam i ben wedi ei hatal dros dro.

Dywedodd un o gyfarwyddwyr y clwb, Dave Bennett, fod ganddyn nhw "estyniad" o bythefnos a hanner.

Bydd gwrandawiad cyfreithiol yn parhau fis nesaf i geisio rhoi'r clwb yn nwylo'r gweinyddwyr, meddai Mr Bennett.

Yn y cyfamser, mae'r Prif Weinidog, Tony Blair, yn dymuno'n dda i'r clwb.

Rydyn ni'n gobeithio y bydd rhywun yn dod ymlaen ac yn ein hachub
Dave Bennett, cyfarwyddwr y clwb

Fe gododd AS Wrecsam, Ian Lucas, gwestiwn am y clwb wrth holi'r Prif Weinidog ddydd Mercher.

Dywedodd Mr Blair wrth y Senedd ei fod yn dymuno'n dda i'r clwb ond na allai ymyrryd yn bersonol yn y ddadl dros berchnogaeth y clwb.

Roedd disgwyl i Gyllid y Wlad ofyn i'r Uchel Lys i ddod â'r clwb, sydd yng nghynghrair un a sydd â dyledion o £800,000 mewn treth, i ben ddydd Mercher.

Drwy ddeiseb i fynd i ddwylo'r gweinyddwyr fe lwyddodd y clwb i osgoi hynny.

Colli pwyntiau

Mae'r cyfarwyddwyr yn gobeithio y bydd rhywun yn gwneud cynnig i'w brynu yn ystod yr wythnosau nesaf.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd rhywun yn dod ymlaen ac yn ein hachub," meddai Mr Bennett.

Mewn datganiad ddydd Mawrth fe ddywedodd y cyfarwyddwyr nad yw ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr yn datrys ei broblemau "dim ond yn fecanwaith y gellid dod o hyd i ateb drwyddo."

Os yw'r cynlluniau i roi'r clwb yn nwylo'r gweinyddwyr yn parhau yna fe allai Wrecsam fod y clwb cyntaf o dan reolau'r Gynghrair Bêl-droed i wynebu'r gosb 10 pwynt a byddai hynny'n eu gadael yr olaf ond un o waelod cynghrair un.

Cyflwynwyd y rheol wedi i nifer o glybiau alw'r gweinyddwyr.

Dywedodd datganiad gan y clwb: "Os yw gorchymyn i roi'r clwb yn nwylo'r gweinyddwyr yn cael ei wneud gan y llys yna mae canlyniadau mawr, y mwyaf amlwg yw tynnu 10 pwynt.

"Ond wrth wynebu'r dewis arall o ddiwedd ar y clwb, mae'r cyfarwyddwr yn credu fod eu penderfyniad yr un gorau i'r clwb a pharhâd pêl-droed cynghrair yn Wrecsam."

Bydd rhoi'r clwb yn nwylo'r gweinyddwyr yn rhoi cyfle i'r clwb i ddod o hyd i becyn achub.

'Rhyddhâd'

Dywedodd Lindsay Jones o Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam, ei fod yn croesawu'r cam.

"Dwi wrth fy modd ac mae'n rhyddhâd mawr. Y dewis arall oedd diddymu'r clwb," meddai.

"Dydyn ni ddim eisiau colli 10 pwynt ond rydyn ni'n edrych ar 100 mlynedd arall i glwb pêl-droed Wrecsam."

Mae perchennog y clwb, Alex Hamilton, eisoes wedi gwrthod dau gynnig gan ymddiriedolaeth y cefnogwyr i brynu'r Cae Ras.

Mae consortiwm yn cynnwys dau gyn gadeirydd Wrecsam, Mark Guterman a Pryce Griffiths, y cyn reolwr Dixie McNeil ac AC Wrecsam, John Marek, yn parhau i aros i glywed a yw eu cynnig wedi ei dderbyn.

Dydd Iau bydd dirprwyaeth o wleidyddion Wrecsam yn teithio i Gaerdydd i gwrdd â'r Gweinidog Chwaraeon, Alun Pugh, i drafod achub y Cae Ras.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^