BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 16 Tachwedd, 2004, 16:00 GMT
Gweinyddwyr: Camau cyntaf
Cefnogwyr Wrecsam cyn y gêm yn erbyn Hayes 13:11:04
Mae dau gais gan y cefnogwyr i brynu'r clwb wedi ei wrthod

Mae cyfarwyddwyr Clwb Pêl-Droed Wrecsam yn dweud eu bod yn anelu at roi'r clwb yn nwylo'r gweinyddwyr.

Dyled y clwb yw £800,000 mewn trethi ac mae Cyllid y Wlad i fod i ofyn i'r Uchel Lys ddod â'r clwb i ben ddydd Mercher.

Mae dau gyfarwyddwr, David Bennett a David Griffiths, wedi dweud mai rhoi'r clwb yn nwylo'r gweinyddwyr oedd yr ateb gorau yn lle gadael iddo gael ei ddileu.

"Byddwn yn deisebu'r Uchel Lys ac yn troi pob carreg i sicrhau y bydd y clwb yn goroesi," meddai'r ddau.

Rydym yn barod i ymladd hyd y pen i achub Clwb Pêl-Droed Wrecsam
Mark Guterman, cyn-gadeirydd Wrecsam

Mae'r cyn-gadeirydd, Mark Guterman, yn ceisio prynu'r clwb oddi wrth y perchennog, Alex Hamilton.

Eisoes mae Mr Hamilton wedi gwrthod dau gynnig i brynu'r clwb oddi wrth ymddiriedolaeth y cefnogwyr.

Pe bai'r clwb yn cael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr, gallai clwb hynaf Cymru golli 10 pwynt yn y gynghrair ac mae'n bosib y gallai rhai o'r chwaraewyr gorau gael eu gwerthu.

Ddydd Sadwrn cariodd cefnogwyr Wrecsam arch ffug cyn y gêm yn rownd gyntaf Cwpan yr FA yn erbyn Hayes.

Enillodd y Dreigiaid o 4-0.

Tymor byr

Pe bai'r clwb yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr yn wirfoddol cyn gwrandawiad llys ddydd Mercher, gallai weithredu yn y tymor byr.

Dywedodd arweinydd cyngor Wrecsam, y Cynghorydd Neil Rogers, y dylai'r clwb barhau "fel clwb pêl-droed proffidiol" ac mae disgwyl iddo gyfarfod â'r Gweinidog Chwaraeon, Alun Pugh, yn y cynulliad ddydd Iau.

Cyn gêm dydd Sadwrn dywedodd Mr Guterman wrth BBC Cymru nad oedd ei gynnig diweddara "wedi ei dderbyn na'i wrthod".

Y Cae Ras, Wrecsam
Mae cefnogwyr yn bryderus am ddyfodol y clwb

"Y prawf terfynol fydd a wnaiff dderbyn y cynnig ai peidio," meddai.

"Rydym yn barod i ymladd hyd y pen i achub Clwb Pêl-Droed Wrecsam ac mae 'na obaith o hyd.

"Fyddwn ni ddim yn ildio."

Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr y Clwb yn erbyn bwriad Mr Guterman i redeg y clwb.

Mewn datganiad dywedodd yr ymddiriedolaeth mai'r unig ateb oedd mynd i ddwylo'r gweinyddwyr yn wirfoddol gan fod hynny "yn cynnig cychwyn ffres i Wrecsam a'r cynnig gorau i barhau yn y tymor hir".

'Gwneud elw'

Mae AS Wrecsam, Ian Luacs, wedi dweud nad oedd yn credu fod Mr Hamilton am werthu'r clwb.

"Yn fy marn i, mae modd i'r clwb redeg a gwneud elw ond y ddyled sydd wrth wraidd y problemau," meddai.

Dywedodd rheolwr y clwb, Denis Smith, ei fod yn credu nad gêm dydd Sadwrn oedd yr olaf.

"Ddylai personoliaethau ddim effeithio ar yr hyn sy'n digwydd. Mae'n rhaid sicrhau dyfodol i'r clwb."

Dros y Sul dywedodd cyn-reolwr y tîm, Brian Flynn, y byddai'n "warthus" pe bai'r clwb yn diflannu.




HEFYD:
Gwrthod cynnig cefnogwyr Wrecsam
12 Tach 04 |  Newyddion
Trafodaethau i achub y Cae Ras
01 Tach 04 |  Newyddion
Cadeirydd Wrecsam yn gadael
29 Hyd 04 |  Newyddion
Rhewi cyfri banc clwb pêl-droed
29 Hyd 04 |  Newyddion
Pryder am 'gêm ola' clwb
30 Hyd 04 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^