BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 16 Tachwedd, 2004, 15:55 GMT
Smygu: Cam ymhellach na Lloegr?
Sigaret
Fe fydd Yr Alban yn gwahardd ysmygu mewn llefydd cyhoeddus

Gallai Cymru fynd gam ymhellach na Lloegr a gwahardd smygu ymhob man cyhoeddus, medd Gweinidog Iechyd Cymru.

Roedd Jane Hutt yn ymateb i gyhoeddi Papur Gwyn ar Iechyd Cyhoeddus yn Lloegr ddydd Mawrth.

Mae'n debyg y bydd Llywodraeth San Steffan yn gwahardd smygu mewn llefydd cyhoeddus a gweithleoedd yn Lloegr, ar wahân i dafarnau sydd ddim yn gweini bwyd.

Dywedodd Peter Hain, Ysgrifennydd Cymru, y byddai San Steffan yn trafod â'r cynulliad cyn llunio deddf ar gyfer Lloegr a fydd hefyd yn cynnwys Cymru.

Yn Lloegr fe fydd modd parhau i smygu mewn tafarndai fydd ddim yn gwerthu bwyd
Jane Hutt, Gweiniodg Iechyd Cymru

"Mae'r Papur Gwyn yn helpu pobl Cymru i fyw'n fwy iach," meddai Mr Hain.

"Y nod yw delio ag effeithiau ysmygu, bwyta'n afiach a diogelu iechyd y cenedlaethau i ddod."

Datganoli

Dywedodd Ms Hutt yn y cynulliad ddydd Mawrth y byddai Cymru'n cael pwerau llawn o ran gwahardd smygu mewn llefydd cyhoeddus.

"Mae hyn yn fwy na chyflwyno gwaharddiad fel un Lloegr," meddai.

"Yn Lloegr fe fydd modd dal i smygu mewn tafarndai fydd ddim yn gwerthu bwyd."

Pleidleisiodd y cynulliad bron i ddwy flynedd yn ôl i wahardd ysmygu yn llwyr mewn llefydd cyhoeddus.

Datganoli

Dywedodd Ms Hutt y byddai pwerau yn cael eu datganoli i'r cynulliad.

Ddydd Mawrth cafodd arolwg gan Gyngor Defnyddwyr Cymru ei gyhoeddi oedd yn dangos fod tri chwarter oedolion Cymru o blaid gwahardd ysmygu mewn llefydd cyhoeddus.

Yng Nghymru roedd 76% o bobl a holwyd yn credu y dylai rhyw fath o waharddiad ar ysmygu fod mewn llefydd cyhoeddus.

Roedd y rhan fwyaf o Gymry am wahardd ysmygu mewn llefydd sy'n gweini bwyd.

Rydym yn annog y Cynulliad Cenedlaethol i ddal i lobio am sefydliadau bwyd di-fwg
Vivienne Sugar, Cyngor Defnyddwyr Cymru

Er bod yr arolwg yn dangos fod bron traean o oedolion Cymru yn ysmygu, roedd nifer o'r ysmygwyr o blaid gwahardd.

Roedd 38% o oedolion o blaid gwaharddiad llwyr mewn llefydd cyhoeddus a 38% o blaid ysmygu mewn llefydd penodol.

Ac roedd 70% o blaid gwaharddiad llwyr ar ysmygu mewn llefydd sy'n gweini bwyd, gan gynnwys bwytai a chaffis.

Cafodd ychydig dros 1,000 o bobl eu holi ym Medi.

'Neges glir'

"Mae'r arolwg yn anfon neges glir i'r llywodraeth nad ydi'r cyhoedd yng Nghymru o blaid amgylchfyd myglyd, yn benodol lle mae bwyd ar werth neu'n cael ei fwyta, " meddai Vivienne Sugar, cadeirydd Cyngor Defnyddwyr Cymru.

"Rydym yn annog y cynulliad cenedlaethol i barhau i lobio am sefydliadau bwyd di-fwg."

Mae smygu mewn tafarndai a bwytai wedi cael ei wahardd yng Ngweriniaeth Iwerddon ers mis Mawrth.

Yr wythnos ddiwethaf dywedodd Prif Weinidog Yr Alban, Jim McConnell, y bydden nhw'n gwahardd smygu mewn llefydd cyhoeddus o wanwyn 2006 ymlaen.




HEFYD:
Profi cynllun i wahardd ysmygu
22 Medi 04 |  Newyddion
'Gwerthiant sigarets wedi gostwng'
11 Medi 04 |  Newyddion
Galwad am wahardd ysmygu
15 Gorff 04 |  Newyddion
Cyfle i roi'r gorau i ysmygu
11 Maw 04 |  Newyddion
Ffrae dros smocio goddefol
16 Mai 03 |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^