Mae'r cwmni yn gobeithio y bydd y cylchrediad yn cynyddu
|
Fe fydd un o bapurau Cymraeg enwog Cymru yn cael ei ail-lansio yr wythnos hon.
Bydd Y Cymro'n cael ei ail-lansio yng Ngwesty Portmeirion ger Porthmadog ddydd Mercher gan berchennog newydd, Y Cambrian News,
Nod y cwmni yw codi cylchrediad y papur ond mae rhai'n amau a fydd hynny'n bosib oherwydd cynlluniau i gyhoeddi papur Cymraeg dyddiol.
Sefydlwyd Y Cymro dros 70 o flynyddoedd yn ôl ac ar un adeg roedd yn boblogaidd iawn ymhlith darllenwyr Cymraeg.
Un o olygyddion Y Cymro oedd John Roberts Williams a fu farw ychydig wythnosau yn ôl.
Chwe mis yn ôl cafodd cwmni'r papur ei werthu i gwmni'r Cambrian News sy am roi stamp newydd ar y papur ac adennill peth o'r hen ogoniant.
Cylchrediad
Dywedodd y cwmni y byddai mwy o ddarpariaeth i ddysgwyr a mwy o newyddion Ewropeaidd.
Y gobaith, meddai, yw y bydd hyn yn arwain at godi cylchrediad.
"Mae dyfodol Y Cymro yn gadarn a bydd y papur yn sefyll ar ei draed ei hun, " meddai Lis Owen Jones, Prif Weithredwr y Cambrian News.
"Gallai'r cylchrediad fod yn uwch. Mae o gwmpas 4,000 ac mae wedi bod yn 20,000 yn y gorffennol.
Ein gobaith ni yw ei godi i oddeutu 10,000."
Eisoes mae papurau a chylchgronau Cymraeg wedi dibynnu ar siopau Cymraeg i ddosbarthu eu cynnyrch ond mae'r Cymro am newid y trefniadau dosbarthu.
'Cystadleuaeth'
Mae rhai'n amau a oes lle i fersiwn newydd o'r Cymro a phapur dyddiol newydd.
"Bydd cystadleuaeth ond dwi'n meddwl y byddwn ni'n gallu delio â hynny," meddai Myfanwy Griffiths o'r Cymro.
"Does dim yn bod efo'r syniad o gael papur dyddiol Cymraeg ond mae angen marchnata ac mae angen darllenwyr ar eu cyfer hefyd."