Cafodd stori ei chyhoeddi ar safle Newyddion BBC Cymru'r Byd am ddyn oedd wedi ei anfon yn ôl i Batagonia er gwaetha ymdrechion iddo gael aros am wyliau yng Nghymru.
Mae'r stori wedi ailgynnau'r diddordeb yn niwylliant Patagonia yn yr Ariannin lle sefydlodd dros 100 o Gymry Cymraeg drefedigaeth yn 1865.
Mae Walter Brooks, yn enedigol o Comodoro Rivadavia sef y ddinas fwyaf yn nhalaith Chubut, yn rhoi blas ar awyrgylch Patagonia yn 2004.
Erbyn hyn mae Mr Brooks yn byw yng Nghymru ond dychwelodd i Batagonia ar gyfer Eisteddfod y Wladfa a gafodd ei chynnal yn ddiweddar.
Mae niferoedd yr ymwelwyr o Gymru'n cynyddu bob blwyddyn
|
Ym 1865 hwyliodd dros 160 o Gymry anturiaethus i lannau talaith Chubut, ym Mhatagonia.
Bron 140 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae'r Cymry o'r hen wlad yn dal i fentro i groesi'r Iwerydd ar wahanol adegau'r flwyddyn.
Ond nid â'r bwriad o ymgartrefu mewn gwlad estron a newydd y mae'n
nhw'n cychwyn bellach.
Twristiaid ydyn nhw. Ac nid mewn llong fregus sydd yn herio stormydd y môr am fisoedd y maen nhw'n teithio ond mewn awyrennau cyfforddus.
Croeso cynnes
Ymhen 15 awr maen nhw wedi cyrraedd Buenos Aires ac yna'n teithio tuag at y Wladfa.
Yn wir, un o ôl-effeithiau'r adfywiad yn niddordeb Cymry'r hen wlad yn hynt a helynt disgynyddion y Wladfa yw'r llif gynyddol o dwristiaid sy'n penderfynu teithio er mwyn darganfod hud a rhamant Patagonia.
Mae'r twristiaid yn mwynhau'r croeso cynnes y maen nhw'n ei dderbyn a'r bwyd lleol - mae cig oen a chig eidion yn hollbresennol ar bob bwydlen a'r prisiau
rhad ers i'r Peso gael ei dibrisio ar ôl yr argyfwng economaidd ddwy flynedd yn ôl.
Ymfudwyr i'r Wladfa ar fwrdd llong SS Oricha yn 1911
|
Mae niferoedd yr ymwelwyr o Gymru'n cynyddu o flwyddyn i flwyddyn ac mae'n rhoi cyfle i'r trigolion lleol ddangos iddyn nhw brydferthwch y lle.
Eleni daeth rhwng 250 a 300 o Gymru i fwynhau Eisteddfod y Wladfa.
Ond ar ôl mynd i'r Ŵyl, neu hyd yn oed gymryd rhan ynddi, mae'r grwpiau yn mynd i wahanol lefydd o fewn y Weriniaeth Archentaidd, fel rhaeadrau Iguasw,
rhewlif Moreno, mynyddoedd a llynnoedd yr Andes ac atyniadau'r brifddinas Buenos Aires.
Mae'r diwydiant twristiaeth yn ffynnu o ganlyniad ac mae disgwyl y daw mwy o ymwelwyr y flwyddyn nesaf ar gyfer dathlu 140 mlynedd ers y Glaniad.
Rhywbeth sydd o ddiddordeb mawr i'r Cymry sy'n ymweld ag Eisteddfod y Wladfa yw'r Orsedd.
Anrhydeddu
Ers i Orsedd Patagonia gael ei hailsefydlu yn 2002, mae wedi bod yn symbol arall o diddordeb cynyddol pobol Patagonia yn y diwylliant Cymreig a chryfder y cysylltiadau rhwng y ddwy wlad.
Mae'n sefydliad pwysig sy'n rhoi cydnabyddiaeth i bob un sydd wedi gweithio dros gadw'r etifeddiaeth Gymreig yn fyw.
Mae'r Eisteddfod yn cael chynnal yn Y Wladfa bob blwyddyn
|
Hefyd mae'n ffordd o hybu gweithgareddau diwylliannol yn y gymuned gyfan
gan yr anrhydeddir nid yn unig pobol o dras Cymreig ond pwy bynnag sy'n haeddu cydnabyddiaeth ym marn yr Orsedd.
Mae'r Archdderwydd, Dewi Mefyn Jones, o'r farn bod yr Orsedd wedi esblygu ers 2002.
Iddo fo, mae gwaith y sefydliad yn gam arall i ddiogelu'r etifeddiaeth Gymreig yn Chubut.
Ond a yw'r Orsedd yn gweithio'n gwbl annibynnol ym Mhatagonia?
Eleni ymwelodd John Humphreys, llywydd pwyllgor Eisteddfod y Wladfa, â Chymru gyda'r bwriad o ddysgu mwy am drefn seremonïau'r Orsedd ymo er mwyn cydymffurfio â'r drefn ym Mhatagonia.
Mae'r ymdrechion i wneud yr Orsedd yn rhan annatod a phwysig o Eisteddfod y Wladfa yn dechrau dwyn ffrwyth.
Yn wir, oni bai am bresenoldeb amlwg y Sbaeneg, byddai'r ymwelwyr o Gymru'n teimlo fel tasen nhw yn eu gwlad eu hunain oherwydd safon uchel y cystadlu a
thebygrwydd y digwyddiadau Eisteddfodol, er bod Y Wladfa mor bell
o gartref.
