Jason Jenkins yn osgoi tacl wrth chwarae i'r rhyfelwyr
|
Mae tîm rygbi yn y de orllewin yn dathlu ei benblwydd yn 10 oed y tymor hwn.
Dynion ifanc sydd ag anableddau dysgu yw aelodau Rhyfelwyr Llanelli ac yn ogystal â dathlu eu penblwydd bydd y tîm yn chwarae eu 100fed gêm eleni.
Bob wythnos beth bynnag fo'r tywydd maen nhw'n ymarfer ar yr un tir a'u harwyr sy'n gwisgo crysau cochion tre'r Sosban.
A dim ond yn y sgrym mae rheolau gêm y Rhyfelwyr yn wahanol i dimoedd eraill, gan nad oes gwthio yn eu sgrym nhw.
Hyfforddwr y tîm yw Gwilym Lewis, sy'n gweithio gyda'r dynion yng Nghanolfan Heol Goffa Llanelli ac yn hyfforddi'r tîm yn wirfoddol.
"Dechreuodd y rhyfelwyr pan gawson nhw yr un math o sialens â thîm o Abertawe. Felly fe gafodd tîm ei ffurfio fe gawson nhw ddwy gêm yn ystod y flwyddyn gyntaf ac un arall yr ail flwyddyn," meddai.
Jonathan Kerr yn ennill y bêl tra'n chwarae i'r tîm
|
"O hynny wedyn roedd cymaint o ddiddordeb fel y penderfynwyd mynd yn llawn amser fel petai.
"Roedd saith gêm y flwyddyn wedyn a nawr rydan ni'n chwarae tua 15."
Dyw'r rhyfelwyr ddim yn gorfod teithio yn bell i gael gêm gan fod digon o dimau ar gael yn yr ardal.
"Rydyn ni'n chwarae yn erbyn y clybiau lleol ac rydyn ni wedi mynd mor bell â San Clêr a Chaerdydd, ond fel arfer mae'r gemau yn eithaf lleol a lan y Gwendraeth a Dyffryn Aman," meddai Mr Lewis.
"Mae chwarae rygbi yn helpu eu hunan hyder a'u sgiliau cymdeithasol gan fod cyfle i gymdeithasu yn y dafarn wedi'r gemau ac felly maen nhw'n cwrdd â phobol mewn awyrgylch naturiol."
I ddathlu degfed penblwydd y tîm eleni bydd y chwaraewyr yn teithio i Seland Newydd fis Mehefin i ddilyn y Llewod.
Hefyd maen nhw'n bwriadu cael aduniad adeg y Nadolig a bydd cyfle i'r chwaraewyr presennol wynebu rhai o chwaraewyr y gorffennol mewn gêm arbennig.
Ar y cae nod y Rhyfelwyr yw ennill bob tro ac oddi ar y cae maen nhw'n gobeithio y gall eu llwyddiant fod yn hwb i sefydlu timoedd eraill tebyg iddyn nhw.