BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 2 Tachwedd, 2004, 10:51 GMT
Casinos: ASau yn gwrthwynebu
Casino
Mae rhai yn poeni y gallai'r newidiadau arwain at gynnydd mewn problemau gamblo

Llwyddodd y Llywodraeth i i ennill dadl yn y Senedd nos Lun ar lacio'r rheolau yn ymwneud â hap chwarae, er gwaetha gwrthwynebiad nifer o aelodau meinciau cefn Llafur.

Penderfynodd 29 o aelodau Llafur i wrthryfela yn erbyn y llywodraeth, gan gynnwys rhai aelodau o Gymru.

Ymhlith yr aelodau seneddol o Gymru wnaeth wrthwynebu cyfreithloni casinos mawr yr oedd Win Griffiths, Betty Williams, Denzil Davies, Llew Smith a Jon Owen Jones.

Llwyddodd y llywodraeth i ennill y ddadl gyda mwyafrif o 74 o bleidleisiau.

Roedd yr ASau wedi ymuno gyda arweinwyr crefyddol i wrthwynebu'r bwriad i lacio'r rheolau.

Mae Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan, Tessa Jowell, wedi cydnabod y pryder a dywedodd ei bod yn agored i awgrymiadau gan ASau.

Roedd Archesgob Pabyddol Caerdydd, Y Gwir Barchedig Peter Smith, ymysg y pum clerigwr a anfonodd lythyr protest i bapur y Daily Telegraph ddydd Llun.

Tra eu bod yn cefnogi'r amddiffynfeydd yn y mesur maen nhw'n rhybuddio ei fod yn "paratoi'r ffordd ar gyfer casinos anferth a fydd yn cynnwys rhai o'r ffurfiau mwyaf caethiwus o gamblo."

'Atyniad'

Hefyd maen nhw'n dweud fod "sgil effeithiau problemau gamblo, gan gynnwys teuluoedd a pherthynas yn chwalu, yn ddifrifol ac yn niweidiol.

"Dyw difetha bywydau ddim yn bris sy'n werth ei dalu am fwy o gyfleoedd gamblo."

Dywedodd Mr Smith wrth y BBC: "Byddai cyflwyno'r pethau hyn yng Nghymru yn drychineb llwyr.

"I bobol sydd allan o waith a lle nad oes llawer o weithgareddau hamdden bydd yn atyniad mawr."

Mae'r llythyr yn adleisio barn Archesgob Caer-gaint, a chyn Archesgob Cymru, Dr Rowan Williams, a ddywedodd y gallai mesur newydd fod yn beryglus i rai bregus.

Mae Dr Williams wedi cyfarfod uwch weinidogion i leisio ei bryderon y gallai'r "casinos mawr" gynyddu dyledion a phroblemau gamblo.

Symud peiriannau

Roedd ail ddarlleniad y mesur yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Llun ac roedd yn wynebu gwrthwynebiad gan ASau Ceidwadol, Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Dywedodd Ms Jowell fod 90% o'r mesur yn ymwneud â rheolau mwy llym ac y byddai problem gamblo yn cynyddu pe na bai'r gyfraith yn newid.

Hefyd dywedodd y byddai'n sicrhau fod peiriannau ceiniogau yn cael eu symud o leoedd lle y gall plant ddod yn gaeth iddyn nhw.

Ond addawodd y byddai mwy o ymchwil i gaethiwed i gamblo.

Mae ceisiadau eisoes wedi eu gwneud ar gyfer "casinos mawr" yng Nghaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr, ac yn Abertawe mae addewid am 500 o swyddi pan fydd canolfan adloniant £30m yn agor yng nghanol y ddinas.

"Mae gwrthgyferbyniad mawr yng nghanol y mesur hwn," meddai Wayne David, AS Caerffili.

"Mae'n cynnwys mesurau i amddiffyn plant a phobol fregus ond, ar yr un pryd, mae'n fwriadol yn annog cynnydd mawr mewn ffurfiau mwy caled o gamblo."

Fe wnaeth y Ceidwadwyr, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wrthwynebu'r mesur.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^