Alex Hamilton: Gadael y clwb
|
Mae trafferthion yn parhau yng Nghlwb Pêl-droed Wrecsam wrth i gadeirydd y clwb ymddiswyddo.
Ddydd Gwener daeth cadarnhad fod cyfrifon banc clwb y Cae Ras wedi cael eu rhewi a bod Alex Hamilton wedi cynnig ei ymddiswyddiad.
Ond wrth i arbenigwyr methdaliad gael eu galw i mewn, mae'n bosib y bydd Mr Hamilton yn ailystyried.
Mae llefarydd ar ran y clwb wedi dweud y bydd y gêm ddydd Sadwrn yn erbyn Hull City yn dal ymlaen ar y Cae Ras.
Dywedodd y byddai chwaraewyr y clwb yn yr Adran Gyntaf yn cael eu talu'n hwyr.
Ddydd Iau cafodd y trydan ei dorri am rai oriau oherwydd nad oedd taliadau wedi cael eu gwneud.
Daw ymddiswyddiad Mr Hamilton yn dilyn cyfarfod o'r cyfarwyddwyr ac fe ddywedodd dau o'r cyfarwyddwyr, Dave Bennett a Dave Griffiths, eu bod yn derbyn ymddiswyddiad Mr Hamilton a'u bod yn trafod cynlluniau i gael bwrdd rheoli newydd ddydd Llun.
Doedd Mr Hamilton ddim ar gael i wneud sylw.
Cefnogaeth
Dywedodd rheolwr y tîm, Denis Smith, fod ei chwaraewyr yn gwybod na fydden nhw'n cael eu talu ddydd Gwener ond eu bod yn gobeithio cael eu cyflog ar ôl y gêm ddydd Sadwrn.
Roedd y tîm yn canolbwyntio ar bêl-droed yn lle problemau ariannol, meddai.
"Rhaid i ni ddal ati," meddai.
Dywedodd y dylai'r cefnogwyr fod yn bositif a mynd i gêm dydd Sadwrn yn lle beirniadu.
"Rhaid iddyn nhw ddod i'r Cae Ras os ydyn nhw am i'r clwb barhau."
Mae cyfrif banc clwb pêl-dored Wrecsam wedi cael eu rhewi
|
Dywedodd capten y tîm, Darren Ferguson, bod hi'n bwysig i gael cymaint o gefnogwyr yno a phosib.
"Y mwya ddaw y gore i'r chwaraewyr.
"Dwi'n annog cymaint i ddod yma a phosib.
"Mae'n gêm fawr."
Bil treth
Dywedodd llefarydd ar ran y clwb fod arian yn y banc a'u bod yn ceisio cydweithio â banc yr HSBC i ddatrys y sefyllfa.
Ddydd Iau dywedodd Scottish Power-Manweb iddyn nhw dorri'r trydan oherwydd iddyn nhw "fethu datrys materion" gyda'r clwb.
Cafodd y trydan ei adfer rai oriau yn ddiweddarach.
Credir bod dyledion y clwb tua £5m, gan gynnwys bil treth o £800,000, ac mae Cyllid y Wlad wedi cyflwyno deiseb i ddod â'r clwb i ben.
Bydd yr achos yn yr Uchel Lys y mis nesaf.
Mae Mr Hamilton wedi dweud y bydd yn "amhosib i'r clwb beidio â chael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr yn y tymor byr".
Eisoes mae wedi rhoi £632,500 o'i arian ei hun tuag at y costau o gynnal y clwb.
Dywedodd y cadeirydd fod ei deulu wedi ei berswadio i beidio â rhoi £200,000 ychwanegol i dalu dyled Cyllid y Wlad.
Mae wedi bod ar ei wyliau tan ganol yr wythnos hon.
Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam yn cynnal trafodaethau i brynu'r clwb.
Mae Cyngor Wrecsam wedi dweud eu bod am brynu safle'r Cae Ras i ddiogelu'r safle ar Ffordd Yr Wyddgrug.