BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 29 Hydref, 2004, 12:01 GMT 13:01 UK
Rhewi cyfri banc clwb pêl-droed
Safle'r Cae Ras, Wrecsam
Mae cyfrif banc clwb pêl-dored Wrecsam wedi cael eu rhewi

Cadarnhaodd Clwb Pêl-Droed Wrecsam fod eu cyfrifon banc wedi cael eu rhewi ac mae arbenigwyr methdaliad wedi cael eu galw.

Dywedodd llefarydd ar ran y clwb y bydd chwaraewyr y clwb sydd yn yr Adran Gyntaf yn cael eu talu'n hwyr.

Mae'r tîm yn ymwybodol o'r trafferthion ariannol ac mae'r gêm ddydd Sadwrn yn erbyn Hull City ar y Cae Ras yn dal ymlaen.

Ddydd Iau cafodd y trydan ei dorri am rai oriau oherwydd nad oedd taliadau wedi cael eu gwneud.

Dywedodd rheolwr y tîm, Denis Smith, fod ei chwaraewyr yn gwybod na fydden nhw'n cael eu talu ddydd Gwener ond eu bod yn gobeithio cael eu cyflog ar ôl y gêm ddydd Sadwrn.

Roedd y tîm yn canolbwyntio ar bêl-droed yn lle problemau ariannol, meddai.

"Rhaid i ni ddal ati," meddai.

Dywedodd y dylai'r cefnogwyr fod yn bositif a mynd i gêm dydd Sadwrn yn lle beirniadu.

"Rhaid iddyn nhw ddod i'r Cae Ras os ydyn nhw am i'r clwb barhau."

Bil treth

Dywedodd llefarydd ar ran y clwb fod arian yn y banc a'u bod yn ceisio cydweithio â banc yr HSBC i ddatrys y sefyllfa.

Ddydd Iau dywedodd Scottish Power-Manweb iddyn nhw dorri'r trydan oherwydd iddyn nhw "fethu datrys materion" gyda'r clwb.

Cafodd y trydan ei adfer rai oriau yn ddiweddarach.

Alex Hamilton
Alex Hamilton: Dim mwy o arian

Credir bod dyledion y clwb tua £5m, gan gynnwys bil treth o £800,000, ac mae Cyllid y Wlad wedi cyflwyno deiseb i ddod â'r clwb i ben.

Bydd yr achos yn yr Uchel Lys y mis nesaf.

Mae Alex Hamilton, cadeirydd y clwb, wedi dweud y bydd yn "amhosib i'r clwb beidio â chael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr yn y tymor byr".

Eisoes mae wedi rhoi £632,500 o'i arian ei hun tuag at y costau o gynnal y clwb.

Dywedodd y cadeirydd fod ei deulu wedi ei berswadio i beidio â rhoi £200,000 ychwanegol i dalu dyled Cyllid y Wlad.

Mae wedi bod ar ei wyliau tan ganol yr wythnos hon.

Mae Cyngor Wrecsam wedi dweud eu bod am brynu safle'r Cae Ras i ddiogelu'r safle ar Ffordd Yr Wyddgrug.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^