BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 29 Hydref, 2004, 09:40 GMT 10:40 UK
160,000 i'r Brifwyl
Pafiliwn yr Eisteddfod
Mae'r Eisteddfod mewn argyfwng ariannol

Cyhoeddodd y Gweinidog Diwylliant y byddai'r Eisteddfod Genedlaethol yn derbyn 160,000 ychwanegol gan Lywodraeth y Cynulliad.

Mewn cynhadledd newyddion ym Mae Colwyn cyhoeddodd Alun Pugh fanylion yr arian a chyfeirio at raglen dair blynedd i sefydlogi'r Eisteddfod.

Bydd yr arian "ynghlwm wrth foderneiddio ac arbenigwyr hybu yn sicrhau fod y potensial mwya yn cael ei gyrraedd".

Mae'r Brifwyl yn wynebu argyfwng ariannol.

Mae Bwrdd yr Iaith a minnau yn fodlon ar sut y mae'r Eisteddfod wedi rheoli'r problemau ariannol sy'n eu hwynebu
Alun Pugh, Gweinidog Diwylliant

Bydd y rhaglen dair blynedd yn golygu y gall yr Eisteddfod gynllunio'n well ar gyfer y dyfodol.

Roedd cyhoeddiad ym Medi am arian ychwanegol gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg a'r llywodraeth.

Felly y swm ychwanegol at y grant blynyddol i'r Eisteddfod eleni yw 200,000.

'Pryderon'

"Wedi i mi wrando yn ofalus ar bryderon yr Eisteddfod a gweld gyda fy llygaid fy hun eu bod yn moderneiddio'r strwythur ac yn denu ymwelwyr, dwi'n falch iawn o gyhoeddi cynlluniau i ddiogelu dyfodol yr ŵyl," meddai Mr Pugh.

"Mae'n sicrhau cyfraniad sylweddol i raglen tymor-hir Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer Cymru ddwyieithog.

Maes
Dros y blynyddoedd ma'er Eisteddfod wedi cael llai o grant
"Ac mae Bwrdd yr Iaith a minnau yn fodlon ar sut y mae'r Eisteddfod wedi rheoli'r problemau ariannol a'r ffordd bositif y maen nhw wedi cydweithio gyda ni a'n cyfeillion ym Mwrdd yr Iaith."

Dywedodd Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, fod y cyhoeddiad wedi trafodaethau hir rhwng y Bwrdd, yr Eisteddfod a'r cynulliad.

"Mae gan yr Eisteddfod rl allweddol i'w chwarae i hybu'r Gymraeg ymhlith pobol ifanc a'r di-Gymraeg yn benodol.

"Bydd y Bwrdd yn dal i drafod sut y gall yr Eisteddfod ehangu ei hapl a denu ymwelwyr newydd."

Dywedodd y byddai ymgynghorydd ariannol annibynnol yn cael ei benodi o dan y cynllun gafodd ei gyhoeddi ddydd Gwener.

Ar ddiwedd Eisteddfod Casnewydd roedd apl am 300,000 i achub y Brifwyl.

Grant

Credir mai tua 130,000 sydd wedi dod i law.

Er mwyn osgoi gwerthu asedau i dalu biliau roedd yr Eisteddfod wedi gofyn i Mr Pugh, drwy Fwrdd yr Iaith Gymraeg, am swm o 300,000.

Ers 1997 mae Bwrdd yr Iaith wedi tocio grant yr Eisteddfod a hynny, medd rhai, sydd wedi arwain at yr argyfwng arainnol.

Mae'r brifwyl wedi dal i ddatblygu er eu bod nhw'n gorfod derbyn 100,000 yn llai bob blwyddyn.

Os mai 160,000 fydd yn cael eu rhoi, fe fydd yn gymorth mawr i ni ond fydd o ddim yn mynd yr holl ffordd
Elfed Roberts, cyfarwyddwr, cyn y cyhoeddiad

"Rydan ni'n gobeithio y gall y Bwrdd Iaith adfer y grant i'r lefel yr oedd yn 1997 oherwydd dyna yn y bn sydd wedi achosi'r helynt yr ydan ni ynddo byth er hynny," meddai Dr R Alun Evans, Llywydd Llys yr Eisteddfod, cyn y cyhoeddiad.

"Os naw chawn ni'r swm yn gyflawn...fe fydd yn rhaid i ni wedyn edrych ar y darlun ac edrych ar unrhyw ffynonellau eraill sydd a sut wedyn y mae gweithredu argymhelliad Cyngor yr Eisteddfod o orfod torri yn l 200,000 yn ein costau.

"Fe all orfodi diswyddo staff, a dyna'r man eitha, ond fe all olygu hynny gwaetha'r modd."

Dywedodd Elfed Roberts, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod Genedlaethol, cyn y cyhoeddiad eu bod yn dymuno cael 300,000 oddi wrth y cynulliad.

"Os mai 160,000 fydd yn cael eu rhoi, yna fe fydd yn gymorth mawr i ni ond fydd o ddim yn mynd yr holl ffordd.

"Fe fydd yn rhaid i ni edrych wedyn sut y gallwn ni sicrhau ein bod yn dod allan o'r twll yma ond ein bod yn cynnal eisteddfod lwyddiannus yn Eryri a sicrhau na fyddwn ni'n mynd i dwll yma eto.

"O ran toriadau, mae 'na ddau ddewis sef torri ar staff neu dorri ar weithgaredd, neu gyfuniad o'r ddau.

"Allwn ni ddim gwneud mwy."

  • Beth yw eich barn chi? Anfonwch neges os gwelwch yn dda at BBC Cymru'r Byd.

    Enw
    Eich cyfeiriad e bost
    Tref a Sir
    Eich sylwadau

    Ymwadiad: Gall y BBC olygu eich sylwadau ac ni fedrwn warantu y bydd pob neges e-bost yn cael ei chyhoeddi.


    Sylwadau:

    Felly bydd arian yn cael ei roi i'r Eisteddfod os ydyw "ynghlwm wrth foderneiddio ac arbenigwyr hybu yn sicrhau fod y potensial mwya yn cael ei gyrraedd". Mae'r Steddfod wedi dweud na fydd y rheol Gymraeg yn cael ei pheryglu mewn digwyddiadau swyddogol; h.y. cystadlaethau, gwahanol bebyll, megis Pabell y Cymdeithasau, o gwmpas y maes. Ond dyn nhw ddim wedi dweud a fydd y "Maes" ei hunan yn awr yn mynd yn fwy "dwyieithog" ac yn fwy "twristaidd" er mwyn cyflawni'r "hybu" yma. Mae na ddyletswydd mawr ar yr Eisteddfod i wneud datganiad diamwys beth maen nhw yn bwriadu ei wneud wrth gyrraedd amodau'r Llywodraeth. Dyn nhw ddim wedi gwneud hynny hyd yma. Ac mae na gwestiwn dyfnach yn codi. Ydy o'n iawn fod Llywodraeth yn cael llywio diwylliant yn y ffordd yma? Os ydy'r duedd yma i ymyrryd yn y diwylliant Cymraeg gan Lywodraeth yn parhau, fe fydd Llywodraeth Cymru yn dechrau edrych yn go debyg i un o'r "Adrannau Diwylliant" bondigrybwyll hynny oedd yn bodoli yn Nwyrain Ewrop cyn cwymp yr Undeb Sofietaidd!
    Simon Brooks, Tal-y-bont, Ceredigion

    Am gyfraniad tila gan y Cynulliad - unwaith eto yn dangos eu diffyg ymrwymiad i'r iaith a'r diwylliant Cymraeg. Byddai 1.6 miliwn yn agosach ati er mwyn i'r Eisteddfod ddatblygu a chymryd ei phriod le yng nghalendr diwylliannol y genedl. Dwi'n rhyfeddu fod gan Alun Pugh a'i giwed yr wyneb i wneud cyfraniad mor dila - rhag ei gywilydd.
    Gareth Wood, Merthyr Tudful

    Does dim dwywaith bod yr Eisteddfod wedi chwarae rl hanfodol mewn gwarchod yr iaith a'i llenyddiaeth ac wedi cynnal ffocws i'w siaradwyr ar amser pan nad oedd y wladwriaeth yn fodlon cydnabod eu bodolaeth. Ond gyda'r newidiadau mawr sydd wedi digwydd yng Nghymru yn y 25 mlynedd diwethaf, mae'n hen bryd i ailystyried rl yr Eisteddfod.
    Y mae'n hollbwysig bod rl traddodiadol yr Eisteddfod yn parhau, sef annog, cefnogi a dathlu talent llenyddol yn yr iaith Gymraeg. Ond hefyd mae dau faes arall y mae'n bwysig eu gwella hefyd.
    Un yw agwedd yr Eisteddfod at y cyhoedd fel cwsmeriaid. Er enghraifft, mae'n gwbl annerbyniol yn y byd modern bod rhaid i ymwelwyr gerdded drwy mwd er mwyn ymweld 'r stondinau. Yr ail beth yw ymestyn yr Eisteddfod i gynnwys gwyliau teledu a ffilmiau, sydd yn fwy cyfarwydd fel dulliau diwylliannol i'r cyhoedd yn eu bywydau pob dydd.
    Rhobat Bryn Jones, Caerdydd

    Rwy'n meddwl bod y Cynulliad wedi bod yn sl iawn yn rhoi cyn lleied. Beth sydd ei angen ar yr Eisteddfod yw un taliad o 1 miliwn i glirio'r dyledion sydd wedi digwydd oherwydd i Fwrdd yr Iaith dorri ar y grant rhai blynyddoedd yn l, ac yna codiad o 100K yn y grant blynyddol. Symiau bach iawn yw'r rhain i'r Cynulliad, ond os yw arian mor brin a hynny, yna buaswn yn hapus i weld grant Bwrdd yr Iaith yn cael ei docio. Wedi'r cyfan mae hwnnw'n derbyn 7 miliwn y flwyddyn o arian cyhoeddus.
    Rhys Harris, Caernarfon. Gwynedd




  • HEFYD:
    Prifwyl: Cytuno i newid y drefn reoli
    16 Hyd 04  |  Newyddion
    Prifwyl: 'Dim lleihau rl yr iaith'
    13 Hyd 04  |  Newyddion
    Prifwyl: 40,000 yn fwy
    21 Medi 04  |  Newyddion
    Eisteddfod 'angen arbed 200,000'
    18 Medi 04  |  Newyddion


    CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


    Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


    Yn ôl i'r brig ^^