BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 25 Hydref 2004, 15:47 GMT 16:47 UK
O Sir Benfro i America
John Kerry yn ymgyrchu
Gallai John Kerry fod yn Arlywydd America o fewn wythnosau
Mae gan un o'r ymgeiswyr am arlywyddiaeth America rywfaint o waed Cymreig.

Dywed arbenigwyr achau yn America fod yr ymgeisydd Democrataidd o Colorado 'i wreiddiau yn Ninbych y Pysgod.

Ymfudodd William ac Elizabeth Jenkins o Sir Benfro yng nghanol y 17eg ganrif ac mae Maeres Dinbych y Pysgod Sue Lane wedi sgrifennu at Mr Kerry a dymuno pob lwc iddo.

"Mae'n debyg i William ac Elizabeth Jenkins fynd i America yn 1675 a'u bod ymysg y rhai cyntaf aeth allan yno," meddai.

Mae gwefan achau yn America wedi olrhain teulu John Kerry dros wyth cenhedlaeth i William Jenkins a briododd Elizabeth Lewis yn Ninbych y Pysgod ar Fedi 2 1673.

Ganwyd merch Margaret iddyn nhw yn y dref ar Fai 23 1674.

Dinbych y Pysgod
Mi allai Dinbych y Pysgod fanteisio ar y cysylltiad os wnaiff ennill yr etholiad

Ychydig o flynyddoedd wedyn aeth y tri i America ac mae cofnodion yn dangos fod Margaret wedi priodi Thomas Paschall mewn tŷ cwrdd yn Haverford, Pennsylvania, yn 1692.

Er bod y wefan achau yn cofnodi'r cysylltiad rhwng Margaret a John Kerry mae bwlch o dair cenhedlaeth rhwng William Jenkins a hynafiaid cynharaf aelodau'r teulu Jenkins.

"Dros y cyfnod mae'r canghennau wedi lledu ond mae'n debyg mai hon ydy'r unig gangen y gellir ei dilyn yn uniongyrchol," meddai Mrs Lane.

Mae gan Sir Benfro eisoes gysylltiad theuluoedd arlywyddol America oherwydd mae gwreiddiau Hillary Clinton, gwraig y cyn-Arlywydd Clinton a Seneddwr Efrog Newydd, yn y sir.

Daeth teulu George Washington, arlywydd cyntaf America, o lethrau'r Wyddfa.




HEFYD
Marchnata canu'r Cymry yn Chicago
24 Medi 04 |  Newyddion
Cr Cymreig yn cofio Medi 11
11 Medi 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^