Y Prifardd Twm Morys a chyfeillion yn mwynhau peint yn eu gwisgoedd Gorseddol
|
Am y tro cyntaf erioed cafodd alcohol ei werthu ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae stondinwyr sy'n gwerthu diod yn dweud fod y newid yn un poblogaidd.
Ond mae elusennau sy'n gweithio yn y maes alcohol a chyffuriau yn feirniadol.
Ac mae nifer o brifeirdd a llenorion yn croesawu'r newydd-ddyfodiad am eu bod yn gallu mwynhau peint yn dilyn bod yn yr Orsedd.
Ychydig ar ôl 1100 BST ddydd Sadwrn fe agorodd y bariau am y tro cynta erioed ar y Maes.
Mae 'na ddau far penodol, hen fysiau wedi eu haddasu sy'n berchen i'r Brodyr Steadman o Gasnewydd.
Mae stondinau eraill hefyd yn cynnig cwrw neu win gyda phrydau bwyd.
Ac unwaith i'r bar gael ei agor doedd dim rhaid aros yn hir i'r peint cyntaf gael ei dynnu.
Alun Evans o'r Bontfaen brynodd y peint cyntaf
|
O fewn munudau cafodd Alun Evans o'r Bontfaen y peint cynta.
"Ond fod pobol ddim yn yfed gormod mae'n iawn," meddai Mr Evans.
"Gan mai fi yw'r cyntaf a fyddai i ddim yn yfed gormod, yna mae'n iawn.
"Does dim gwahaniaeth gen i.
"Os fydd pobol yn mynd allan i Gasnewydd fe fydd pawb yn yfed felly sai'n credu neith e lot o wahaniaeth"
Ac ar y Maes roedd 'na groeso i'r bar gan y mwyafrif o Eisteddfodwyr.
Ond mae un stondin yn cynnig diodydd di-alcohol.
Mae'r Asiantaeth Cyffuriau ac Alcohol, CAIS, yn ogystal â chynnig y diodydd yma, hefyd yn cynnal arolwg o agweddau tuag at alcohol a'r defnydd ohono ar y Maes yn ystod yr wythnos.
Cam i'r cyfeiriad anghywir yw'r fenter i werthu alcohol ar y Maes yn ôl Cais.
Eryl Jones: Rhybudd am yfed yn y tywydd cynnes
|
"O safbwynt pobol ifanc sy'n dod yma ac yn penderfynu mynd am ddiod alcohol, yn enwedig yn y tywydd braf yma, mae 'na beryg o or-yfed," meddai Eryl Jones o'r Asiantaeth.
"Ac mae'r effaith gaiff hyn ar bobol ifanc yn bryderus."
Yn ôl Glyn Hughes sy'n gofalu am y bariau ar ran Clwb Ifor Bach roedd hi'n dawel iawn i ddechrau ddydd Sadwrn.
"Mae'r bar ar agor o 1100 BST hyd 2000 BST a hyd yma mae hi wedi bod yn weddol dawel ond dwi'n siwr y bydd hi'n prysuro yn ystod y dydd a'r wythnos.
"Mae'n anodd gwybod sut fydd pethau'n mynd gan nad ydi hyn wedi bod ar y Maes o'r blaen ac nad ydi pobol wedi cael y cyfle i wneud y dewis."