BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 31 Gorffennaf, 2004, 16:38 GMT 17:38 UK
Ail dlws i Owain
Owain Llwyd
Dyma'r ail dlws i Owain Llwyd ei hennill yn olynol

Mewn dwy flynedd mae dyn ifanc 20-oed o'r gogledd wedi ennill dau dlws cerddorol yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ym mhrif seremoni gyntaf yr Eisteddfod yng Nghasnewydd enillodd Owain Llwyd o Gorwen Dlws y Cerddor am gyfansoddiad gwreiddiol ar gyfer deuawd i delyn a ffliwt.

Enillodd y tlws yn Eisteddfod Meifod y llynedd, yr enillydd ifanca erioed.

Ac eleni enillodd Dlws y Cerddor yn Eisteddfod yr Urdd yn Ynys Môn.

Yng Nghasnewydd roedd 12 wedi cystadlu ac roedd y ddau feirniad, Richard Elfyn Jones ac Ann Griffiths yn cytuno bod "Y Clebrwr" yn haeddu'r wobr a'r clod.

Daw Owain o Lyndyfrdwy, Corwen ac mae newydd orffen ei ail flwyddyn ym Mhrifysgol Cymru Bangor lle mae'n astudio ar gyfer gradd mewn cerddoriaeth.

Mae ôl hyder creadigol a soffistigedig yma ac mae'n bleser beirniadu'r gwaith
Ann Griffiths, beirniad
Dywedodd y beirniad Ann Griffiths fod y darn hwn o waith yn "llawn nwyd ac asbri".

"Y delyn yw'r gath a'r ffliwt yw'r golomen," eglurodd.

"Mae ôl hyder creadigol a soffistigedig yma ac mae'r lluniau yn dod yn fyw yn y meddwl.

"Mae'n ddarn yn llawn hwyl ac yn bleser i'r glust.

"Rydym fel beirniaid yn cytuno bod angen cyhoeddi'r gwaith yma ar fyrder er mwyn i'r gwaith gael ei glywed dramor yn ogystal.

"Roedd yn bleser beirniadu'r gwaith."

Tro cynta

Cyn mynd i'r brifysgol enillodd Owain ar yr unawd piano yn yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith yn olynol gan gipio'r Rhuban Glas Offerynnol i rai rhwng 16 a 19 oed yn Eisteddfod Tyddewi 2002.

Yr un flwyddyn enillodd dlws y prif gyfansoddwr yn Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd, gyda gwaith ar gyfer deuawd piano.

Y llynedd, ar ei flwyddyn gyntaf yn y coleg, nid yn unig enillodd Dlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn ond ef hefyd oedd yr ieuengaf erioed i ennill y wobr.

Rydym yn cytuno bod angen cyhoeddi'r gwaith yma ar fyrder er mwyn i'r gwaith gael ei glywed dramor
Ann Griffiths

Eleni ar gyfer y gystadleuaeth fe gyfansoddodd Owain am y tro cyntaf ar gyfer y delyn.

Ym mis Rhagfyr bydd yn perfformio Consierto i'r piano Rhif 2 gan Rachmaninov gyda Cherddorfa Prifysgol Bangor ac yna fis Mawrth nesaf bydd yr un gerddorfa yn rhoi'r perfformiad cyntaf o'i waith ef ar gyfer cerddorfa lawn.

Dywedodd mai ei brif nod yn y dyfodol yw ceisio datblygu ymhellach ym meysydd cyfansoddi yn enwedig ar gyfer ffilm a theledu.

Ar gyfer y gystadleuaeth hon penderfynodd ddefnyddio'r delyn i bortreadu cath a ffliwt i gynrychioli colomen y mae'n ceisio'i dal. Mae tensiynau amlwg gydol y darn rhwng y ddau gymeriad.

Yn y darn cyntaf mae'r gath yn smalio bod yn ffrind i'r golomen er mwyn ei hudo ond buan iawn y daw ei hochr arswydus i'r amlwg.

Ond yn y diwedd mae'r golomen yn rhy glyfar iddi serch hynny nid yw gwir ganlyniad yr ymrafael rhwng y ddwy yn gwbl glir yn y diweddglo.

Yn ogystal â'r tlws mae Owain yn ennill £500 sy'n rhodd gan Gymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Gymraeg Casnewydd ac Ysgoloriaeth £2,000 gan Sefydliad Cenedlaethol Cymru-America i hyrwyddo ei yrfa.





CASNEWYDD A'R CYLCH 2004

O'R MAES

CEFNDIR

YR ORSEDD

O'R ARCHIF


ORIELAU

GWEFAN


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^